TAG Safon Gyffredin

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Lefel O)

Cymhwyster yn seiliedig ar bwnc penodedig, a roddwyd fel rhan o'r Dystysgrif Addysg Gyffredinol, oedd TAG Safon Gyffredin (Saesneg O Level, sef Ordinary Level). Fe'i cyflwynwyd fel rhan o ad-drefnu'r gyfundrefn addysg yn y DU yn y 1950au ynghyd â'r TAG Safon Uwch (Saesneg: A Level), sy'n gymhwyster dyfnach a mwy academaidd.

Diddymwyd TAGau Safon Gyffredin pan gyflwynwyd arholiadau Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 1988. Diddymwyd y cymhwyster cyfatebol yn yr Alban hefyd, sef yr O-grade (cymerodd y Standard Grade ei le).

Strwythur[golygu | golygu cod]

Seiliwyd y TAGau Safon Gyffredin ar arholiadau yn bennaf. Roedd hyn yn fantais ar gyfer myfyrwyr a oedd yn dysgu yn rhan-amser neu gyda'r nos; ond, roedd rhai sylwebwyr yn beirniadu hyn yn hallt oherwydd ei fod ond yn cynnig prawf cyfyngedig o allu myfyriwr i gymharu â ffurfiau eraill o asesu, (gwaith cwrs er enghraifft).

Graddio[golygu | golygu cod]

Graddiwyd arholiadau lefel-O ar Raddfa 1 i 9, gydag 1 i 6 yn pasio'r prawf, a gradd 7 i 9 yn methu. Cyflwynodd y rhan fwyaf o fyrddau arholi system safonol o raddio yn ddiweddarach, gydag A, B a C yn graddau pasio a D, E ac U (Unclassified) yn graddau methu. Ni restrwyd graddau U ar y dystysgrif. Nid oedd system Bwrdd Prifysgol Llundain yn cydlynu yn wreiddiol, ac roeddent yn gwobrwyo graddau A, C ac E ar gyfer pasio a F, H ac U ar gyfer methu. Ymunodd Prifysgol Llundain â'r system safonol o raddio yn yr 1970au.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ym 1986, cyflwynwyd system newydd i gymryd lle'r safon gyffredin, gyda'r Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU). Cymerwyd yr arholiadau olaf y safon gyffredin yn 1987, roedd y cwricwlwm TGAU eisoes wedi cael ei gychwyn ym 1986, cymerwyd yr arholiadau TGAU cyntaf ym 1988. Mae'r safon gyffredin yn parhau i gael ei ddefnyddio mewn nifer o gyn-wladfeydd Prydain, megis Bangladesh, Brwnei, Ghana, Pacistan, Singapôr, Sri Lanca, Maleisia, Malta, Mawrisiws, Trinidad a Tobago a Hong Cong. Mai rhai ysgolion Prydeinig hefyd wedi troi'n ôl at ddefnyddio arholiadau sy'n seiliedig ar yr hen safon gyffedin.[1]

Mae'r TAGau Safon Gyffredin yn parhau i fod yn gymhwyster a gaiff ei barchu a'i gydnabod yn rhyngwladol ar gyfer myfyrwyr o wledydd eraill, sy'n eu defnyddio er mwyn paratoi ar gyfer addysg bellach yn eu gwlad eu hun, neu er mwyn mynd i astudio mewn addysg bellach dramor. Ym mis Mehefin 2005, cofrestrodd 12 miliwn o ymgeiswyr o dros 200 gwlad ar gyfer arholiadau TAGau Safon Gyffredin ar draws y byd. Mae'r sefydliadau sy'n cynnig cyrsiau y safon gyffredin yn cynnwys Arholiadau Rhyngwladol Caergrawnt[2] ac Edexcel Rhyngwladol.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]