Bonesig Sarah McCorquodale

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Merch hynaf John Spencer, 8fed Iarll Spencer a'r Anrhydeddus Frances Burke Roche yw y Fonesig Elizabeth Sarah Lavinia McCorquodale (ganwyd 19 Mawrth 1955), a chwaer hŷn Diana, Tywysoges Cymru.

Cynnwys

[golygu] Bywyd Cynnar

Ganwyd y Fonesig Sarah o dan yr enw Yr Anrhydeddus Elizabeth Sarah Lavinia Spencer; derbyniodd y teitl cwrteisi y Fonesig Elizabeth Sarah Lavinia Spencer ym 1975, pan bu farw ei thaid a daeth ei thad yn 8fed Iarll Spencer. Dioddefodd o'r anhwylder bwyta anorexia nervosa tra'r oedd yn ei hugeiniau cynnar.[1] Addysgwyd yn Riddlesworth Hall yn Norfolk cyn mynychu ysgol breswyl West Heath ger Sevenoaks yng Nghaint. Gadawodd ysgol West Heath ar ôl pasio ei arholiadau Lefel O, ac aeth i Lundain i weithio.

[golygu] Teulu

Priododd Neil Edmund McCorquodale (ganwyd 1951), mab Alastair McCorquodale a Rosemary Sybil Turnor, ar 17 Mai 1980 yn Swydd Northampton. Mae Neil McCorquodale yn nai i lysfam y Fonesig Sarah, sef Raine de Chambrun.

Mae gan Neil McCorquodale a'r Fonesig Sarah McCorquodale dri o blant

  • Emily Jane McCorquodale (ganwyd 2 Gorffennaf 1983)
  • George Edmund McCorquodale (ganwyd 1984)
  • Celia Rose McCorquodale (ganwyd 1989)

Maent yn gefndryd cyntaf i'r Tywysog William a'r Tywysog Harri ar ochr eu mam. Maent yn byw yn Stoke Rochford, Swydd Lincoln.

[golygu] Llinach

[golygu] Cyfeiriadau

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill