Wiliam Mountbatten-Windsor

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tywysog William)
Wiliam Mountbatten-Windsor
Ganwyd21 Mehefin 1982 Edit this on Wikidata
Ysbyty'r Santes Fair Edit this on Wikidata
TadSiarl III Edit this on Wikidata
MamDiana, Tywysoges Cymru Edit this on Wikidata
PriodCatherine, Tywysoges Cymru Edit this on Wikidata
Planty Tywysog Siôr, y Dywysoges Charlotte, y Tywysog Louis Edit this on Wikidata
PerthnasauTom Parker Bowles, Laura Lopes Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Windsor Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.royal.uk/the-prince-of-wales Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Mab cyntafanedig y Tywysog Siarl a Thywysoges Diana yw William Arthur Philip Louis Mountbatten-Windsor neu'r Tywysog William, Tywysog Cymru (ganwyd 21 Mehefin 1982). Mae'n frawd i'r Tywysog Harri.

Cafodd ei eni yn Ysbyty Sant Mair, Llundain. Ei famaeth oedd Tiggy Legge-Bourke o Grughywel. Tom Pettifer, mab Tiggy, oedd macwy ym mhriodas William.

Priododd William ei gariad Kate Middleton yn Abaty San Steffan ar 29 Ebrill 2011. Ganwyd iddynt fab, Tywysog Siôr o Gaergrawnt, ar 22 Gorffennaf 2013.

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Mae'r tywysog yn chwarae polo'n rheolaidd, ers ei ddyddiau ysgol e.e. yn Sandringham. Mae'n Arlywydd Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ers Mai 2006. Cyn hynny roedd yn adnabyddus am ei gefnogaeth gyhoeddus a brwd i dîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr a thîm rygbi cenedlaethol Lloegr. Yn Awst 2006 cyhoeddwyd y byddai'n Is-noddwr Brenhinol Undeb Rygbi Cymru o Chwefror 2007 a chyhoeddodd yr URC eu bod am weld cwpan i enillwyr y gemau prawf rhwng timau rygbi Cymru a De Affrica yn cael ei alw'n "Cwpan y Tywysog William". Mae hyn wedi ennyn ymateb beirniadol iawn yng Nghymru gan fod nifer o bobl yn gweld William fel cefnogwr Lloegr.

Rhoddodd gefnogaeth frwd ac amlwg i dîm rygbi Lloegr yng Nghwpan Rygbi'r Undeb y Byd 2007. Eisoes mae nifer o Gymry'n galw ar swyddogion Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu penderfyniad dadleuol ac i ailenwi'r tlws yn "Gwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth i'r diweddar Ray Gravell. Dadleuant fod enwi'r cwpan ar ôl y Tywysog William, Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbi Lloegr, yn gwbl anaddas ac mai rheitiach fyddai ei enwi ar ôl Cymro.[1] Lansiwyd deiseb ar-lein yn galw am newid yr enw i "Gwpan Ray Gravell" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 2,000 o bobl wedi ei harwyddo.[2]

Fel Tywysog Cymru[golygu | golygu cod]

Wedi i'w dad ddod yn frenin, cadarnhawyd y byddai William yn cael ei wneud yn Dywysog Cymru. Yn fuan ar ôl y cyhoeddiad dywedodd Mark Drakeford ei fod eisoes wedi trafod rôl newydd y tywysog gydag ef.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ymgyrch 'Cwpan Grav' yn tyfu ar wefan y BBC
  2. Rename the Prince William Cup the Ray Gravell Cup ar wefan The Petition Site
  3. "'Dim hast i arwisgo tywysog newydd Cymru, ac angen iddo ddysgu mwy am flaenoriaethau'r bobol'". Golwg360. Cyrchwyd 13 Medi 2022.