Edward, y Tywysog Du

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Beddrod y Tywysog Du

Edward, y Tywysog Du neu Edward o Woodstock, Tywysog Cymru a Thywysog Aquitaine, (15 Mehefin, 1330 - 8 Mehefin, 1376) oedd fab y brenin Edward III a thad y brenin Rhisiart II. Bu'r Tywysog Du yn enwog yn ei ddydd am ei fuddugoliaethau milwrol yn erbyn Ffrainc.

Bywyd[golygu]

Ganed Edward ar 15 Gorffennaf 1330 ym Mhalas Woodstock, Swydd Rydychen ac fe'i creuwyd yn iarll Caer ym 1333 a dug Cernyw ym 1337. Gweinyddodd fel rhaglyw symbolaidd yn Lloegr yn ystod ymgyrchoedd ei dad yn Ffrainc ym 1339, 1340 a 1342, gyda'r dyletswydd o fynychu pob un o gyfarfodydd y cyngor, a pherfformiodd drafodaethau gyda chenhadon y Pab ynglŷn â'r rhyfel ym 1337. Arwisgwyd â thywysogaeth Cymru ym 1343.

Magwyd Edward gyda'i chyfnither Joan o Gaint[1] Cafodd Edward ganiatâd y Pab i briodi ei chyfnither Joan a phriododd hi ar 10 Hydref 1361 yng Nghastell Windsor.

Castell Wallingford, Berkshire (bellach Swydd Rydychen) a Chastell Berkhamsted, Swydd Hertford oedd ei brif gartrefi yn Lloegr.

Prif gynrychiolydd Edward III yn Aquitaine oedd y Tywysog Du, lle cynhaliodd lys a ddenai brenhinoedd alltud megis Iago IV, brenin Mallorca, a Phedr, brenin Castilla.

Prif ymgyrchoedd y Tywysog Du[golygu]

Arfau'r Tywysog Du.
  • Ymgyrch 1345 Fflandrys ar ffrynt y gogledd, nad oedd ganddo unrhyw arwyddocâd arbennig. Daeth i ben ar ôl tair wythnos pan laddwyd un o gynghreiriaid y Tywysog Du.
  • Brwydr Crécy: ymgyrch ar ffrynt y gogledd a griplodd fyddin ffrainc am ddegawd, gan adael i warchae Calais ddigwydd heb lawer o wrthwynebiad cyn i'r pla gyrraedd.
  • Gwarchae Calais, lle bu rhaid i drigolion y ddinas fwyta cŵn a llygod.[2] Rhoes y gwarchae reolaeth gogledd Ffrainc i'r Season cyn y cadoediad dros dro yn sgil y Pla Du.
  • Gwrthymosodiad Calais. Parhaodd Calais ym meddiant y Season ar ôl y gwrthymosodiad.
  • Les Espagnols sur Mer neu Frwydr Winchelsea ar y Môr Udd. a oedd yn fuddugoliaeth byrrhig heb lawer o bwys ar wahân i atal ymosodiadau ar Essex gan Sbaen.
  • Ymosodiad Mawr 1355 yn ardal Aquitaine-Languedoc, a griplodd de Ffrainc yn economaidd.
  • Gorchfychiadau Aquitaine, a gadarnhaodd reolaeth y Tywysog Du o'i dywysogaeth a'i hadnoddau.
  • Ymgyrch Poitiers yn yr ardal Aquitaine-Loire, a griplodd fyddin Ffrainc am 13 o flynyddoedd, gan achosi yr anhrefn a arweinodd i arwyddo Gytundeb Bretigney ym 1360.
  • Ymgyrch Reims. Methodd y Saeson i gipio Reims, a arweinodd i arwyddo Gytundeb Bretigny.
  • Ymgyrch Najera yng Nghastilla, lle achubwyd gafael y brenin Pedr ar ei orsedd. Daeth y Tywysog Du yn Arglwydd Biskaia dros dro.
  • Gwarchae Limoges ym 1370, lle bu rhaid i'r Tywysog Du adael ei swydd oherwydd salwch a thrafferthion ariannol. ac hefyd oherwydd creulondeb y gwarchae, lle bu farw 3,000 o drigolion Limoges yn ôl rhai. Heb bresenoldeb y Tywysog Du ni allai ymgyrchoedd Edward III yn Ffrainc lwyddo.

Yr enw "Tywysog Du"[golygu]

Nid oes cofnod o Edward yn cael ei alw'n "Dywysog Du" yn ystod ei einioes. "Edward o Woodstock" oedd e i'w gyfoeswyr. Gwelwyd yr enw "Tywysog Du" am y tro cyntaf yng gwaith Richard Grafton, Croniclau Lloegr, ym 1568.[3] Ceir sawl damcaniaeth ynglŷn a tharddiad y llysenw, ymhlith y rhain:

  • Lliw du ei arfwisg neu darian.
  • Bathwyd y llysenw gan groniclwyr o Ffrainc oherwydd ei greulondeb a'r niwed a wnaeth i luoedd Ffrainc.
  • Ei bersonoliaeth.

Y Tywysog Du a Chymru[golygu]

Darn arian Edward o Woodstock.

Esgynnodd Edward III i orsedd Lloegr ym 1327, yn bedair ar ddeg oed. Roedd y deyrnas o 1327 i 1330 yng ngafael Roger Mortimer, un o arglwyddi'r Mers. Canolbwyntiodd hwnnw ar gadarnhau ei rym yng Nghymru. Penododd ei hun yn ustus y dywysogaeth a meddiannu cadwyn o arglwyddiaethau o Ddinbych i Benfro, ac ym 1328 cymerodd y teitl iarll March, cydnabyddiaeth mai yn y Mers oedd sylfaen ei awdurdod. Byrhoedlog bu ei oruchafiaeth a chrogwyd ef ym 1330, blwyddyn geni Edward o Woodstock.

Gyda'i ddaliadaethau eang yn y Mers a'i swyddi yn y dywysogaeth, buasai awdurdod Roger Mortimer yng Nghymru yn helaethach na dim a feddasai unrhyw dywysog Cymreig, Arwisgwyd Edward, mab hynaf Edward III, â'r dywysogaeth ym 1343 a cheisiodd ei gynghorwyr ail-greu peth o'r oruchafiaeth a fuasai gan Roger Mortimer. Dull Llywelyn ap Gruffudd a ddefnyddiwyd ganddynt, sef gwneud arglwyddi Cymru'n ddeiliaid i Dywysog Cymru. Mynnwyd mai eiddo'r tywysog oedd gwrogaeth arglwyddi Dinbych a Maelor, ymwyrrwyd â gweinyddiaeth arglwyddiaeth Brycheiniog, ceisiwyd gwneud Gŵyr yn ddibynnol ar y drefn dywysogaethol yng Nghaerfyrddin, hawliwyd fod gan y tywysog bwerau hanfodol frenhinol dros yr Eglwys a datblygwyd ei Gyngor i fod yn gyfrwng effeithiol i ymelwa ar adnoddau economaidd a milwrol Cymru, yn enwedig er hybu ymgyrchoedd Edward yn Aquitaine, ei dywysogaeth arall. Ni oddefai Edward III i'w fab feddiannu'n llawn y breintiau brenhinol dros grynswth Cymru, ac ym 1354 deddfwyd mai eiddo'r goron oedd gwrogaeth arglwyddi'r Mers.[4]

Edward o Woodstock, trwy ddal y teitl tywysog Cymru am y cyfnod maith o dair blynedd ar ddeg ar hugain, a'i sefydlodd fel y teitl addas ar gyfer etifedd diymwad gorsedd Lloegr. Bu farw'r Tywysog Du flwyddyn bron o flaen ei dad, Edward III, a daeth ei fab Rhisiart o Bordeaux, yn etifedd diymwad. Gwnaed Rhisiart yn dywysog Cymru pan oedd yn naw mlwydd oed; nid oedd ef yn ei arddegau, ond roedd rhesymau arbennig dros roi'r teitl iddo ac yntau mor ifanc. Wedi marwolaeth y Tywysog Du roedd rhywfaint o amheuaeth yn Lloegr fod ei frawd, John o Gaunt, dug Caerhirfryn, yn bwriadu cipio'r orsedd pe bai farw Edward III. Digwyddai bod y senedd yn eistedd pan fu farw'r Tywysog Du; ychydig ddyddiau wedi'i farwolaeth fe ddeisyfodd Tŷ'r Cyffredin ar i Risiart, etifedd y Tywysog Du, gael ei ddwyn i'r senedd i'w gydnabod yn ffurfiol fel gwir etifedd diymwad yr orsedd. A gwnaed hynny. Yna fe ddeisyfodd Tŷ'r Cyffredin ar i'r brenin wneud Rhisiart yn dywysog Cymru, a maes o law, ond nid hyd fis Tachwedd 1376, fe wnaed hynny hefyd. Mae'n amlwg fod Tŷ'r Cyffredin ym 1376 am i Risiart gael ei wneud yn dywysog Cymru er mwyn gwneud yn gwbl glir mai ef oedd etifedd diymwad coron Lloegr.[5]

Y Tair Pluen[golygu]

Bathodyn Tywysog Cymru

Er mai bathodyn personol Tywysog Cymru ydy'r tair pluen estrys mewn coron aur, mae traddodiad o'i ddefnyddio fel un o symbolau cenedlaethol Cymru.

Mae'r geiriau Ich Dien o dan y plu yn golygu "yr wyf yn gwasanaethu" mewn Almaeneg, er i rai geisio awgrymu ei fod yn dod o'r Gymraeg, 'Eich Dyn'.

Ond, nid oes gan yr arwyddlun unrhyw gysylltiad â thywysogion cynhenid Cymru. Yn hytrach, credir bod fersiwn o'r arwyddlun yn mynd yn ôl i gyfnod Edward y Tywysog Du.

Un ddamcaniaeth yw bod y plu wedi cael eu gwisgo gan John y Dall, brenin Bohemia ym Mrwydr Crécy rhwng Lloegr a Ffrainc ym 1346. Enillodd y Saeson, dan arweinyddiaeth y Tywysog Du. Lladdwyd Brenin Bohemia, a oedd yn ymladd ar ochr Ffrainc. Roedd yn gwisgo arfbais y tair pluen, ac wedi mynnu fod yn rhan o'r frwydr, er ei fod yn ddall. Roedd Edward yn llawn edmygedd o'i ddewrder, nes iddo fabwysiadu'r plu fel ei arfbais ei hun.[6]

Damcaniaeth arall yw i'r Tywysog Du etifeddu'r bathodyn naill ai oddi wrth ei dad ynteu oddi wrth ei fam, Philippa o Hainault.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Edward I oedd taid Joan a hen daid Edward.
  2. H. E. Marshall, Our Island Story, ch XLVII
  3. Encyclopædia Britannica, 1985, "Edward the Black Prince"
  4. Davies, John; Hanes Cymru, tud. 175-176, Penguin 1990
  5. Edwards, J.G,; Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 22-23, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  6. BBC Cymru
Rhagflaenydd:
Edward o Gaernarfon
Tywysog Cymru
13431376
Olynydd:
Rhisiart o Bordeaux