Anrhydedd brwydr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Anrhydeddau brwydrau 5ed Warchodlu Dragŵn Brenhinol Inniskilling ar faner y gatrawd.

Anrhydedd milwrol a wobrwywyd i uned filwrol er cof am frwydr neu ymgyrch filwrol yw anrhydedd brwydr a arddangosir ar arwyddnodau neu wisg yr uned. Gan amlaf gwobrwywyd mewn achos buddugoliaeth, ond nid pob amser.[1] Datblygodd anrhydeddau brwydrau yn y Fyddin Brydeinig ac ymledodd i rai o luoedd arfog eraill y Gymanwlad.

Yn yr 17eg ganrif, gwobrwywyd enw newydd ar gatrawd am wasanaeth rhagorol ar faes y gad, ac yn y ganrif olynol rhoddwyd torch lawryf i uned gyfan.[1] Rhoddwyd medalau personol i swyddogion, ac weithiau milwyr o rengoedd is, os cymerant ran mewn brwydr lwyddiannus yn y 18fed ganrif. Roedd y 15fed Ddragwniaid Ysgeifn mor lwyddiannus ym Mrwydr Emsdorf (1760) canitawyd iddynt ddangos yr enw "Emsdorf" ar eu penwisg.[2] Ym 1768 cymerwyd yr enw oddi ar eu capiau a'i addurnwyd ar eu gidonau, ac hwn oedd yr anrhydedd brwydr cyntaf ar ffurf enw brwydr neu ymgyrch. Ym 1784 rhoddwyd "Gibraltar" ar faneri catrodol pedair o'r catrodau o droedfilwyr a amddiffynnodd y Graig yn ystod Gwarchae Gibraltar (1779–83). Daeth rhagor o anrhydeddau o'r ymgyrchoedd yn erbyn Napoleon, gan gynnwys y Sffincs a'r Aifft yn sgil yr ymgyrch i'r Aifft (1801), yr anrhydedd cyntaf a roddwyd ar gyfer ymgyrch ac nid brwydr unigol. Rhoddwyd y Sffincs i 33 o gatrodau ym 1802.[1]

Rhoddwyd yr anrhydedd "Peninsula" i 87 o gatrodau am wasanaeth yn Rhyfel Iberia, a "Waterloo" i 38 o gatrodau a ymladdodd ym Mrwydr Waterloo (1815). O 1817 ymlaen rhoddwyd anrhydeddau ar wahân ar gyfer 23 o frwydrau Rhyfel Iberia, a chydnabuwyd rhyfeloedd trefedigaethol y 19eg ganrif ar raddfa ysbeidiol. Ym 1882 cafwyd adolygiad o'r anrhydeddau gan arwain at gydnabyddiaeth o fuddugoliaethau Dug Marlborough a James Wolfe, a chydnabuwyd ymgyrchoedd yr 17eg ganrif a rhagor o frwydrau'r 18fed ganrif gan adolygiad 1909. O hynny ymlaen, gwobrwyir anrhydeddau brwydrau yn fwy reolaidd. Rhoddwyd 163 o anrhydeddau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac o ganlyniad roedd y nifer o anrhydeddau gan gatrodau mor uchel gorchmynwyd taw dim ond mwyafrif o 10 y gellir eu harddangos ar faneri, llumanau a gidonau. Yn yr Ail Ryfel Byd rhoddwyd y rheol hon ar waith unwaith eto, a bydd catrodau'n dewis eu 10 brwydr pwysicaf y rhyfel, gan amlaf y rhai a welodd y golled fwyaf o ddynion. Ar gyfartaledd roedd rhestr lawn o anrhydeddau brwydrau catrawd ddwywaith hynny a arddangoswyd.[1]

O ganlyniad i'r cyfuniadau niferus yn y Fyddin Brydeinig ers ail hanner y 19eg ganrif, cyfunwyd yr anrhydeddau brwydrau ar gyfer catrodau newydd.[1] Caniateir i ddangos anrhydeddau brwydrau ar addurniadau, gan gynnwys platiau gwregysau swyddogion ac yn y 19eg ganrif siacos, yn ogystal â'r faner gatrodol a drymiau. Ymddangosir weithiau ar fathodynnau cap a botymau.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Griffin, P. D. Encyclopedia of Modern British Army Regiments (Thrupp, Sutton, 2006), t. 187.
  2. 2.0 2.1 Carman, W. Y. A Dictionary of Military Uniform (Llundain, B.T. Batsford, 1977), t. 24.