Boulogne-sur-Mer
Oddi ar Wicipedia
Porthladd, dinas a chymuned yng ngogledd Ffrainc, sous-préfecture yn département Pas-de-Calais yw Boulogne-sur-Mer, a dalfyrrir yn aml i Boulogne. Mae llongau fferi yn hwylio'n rheolaidd rhwng Boulogne a phorthladd Dover yn Lloegr.
Roedd y dref yn wreiddiol yn ganolfan llwyth y Morini. Yma yr adeiladodd Iŵl Cesar ei lynges ar gyfer ei ymgyrch ym Mhrydain; gelwid y dref yn Gesoriacum yn y cyfnod Rhufeinig. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 43,700.
Pobl enwog o Boulogne-sur-Mer [golygu]
- Godefroid o Fouillon
- Jean-Pierre Papin, pêl-droedwr
- Charles Augustin Sainte-Beuve, awdur
Adeiladau [golygu]
- Castell Boulogne-sur-Mer
- Clochdy (gweler ffoto)
- Notre-Dame de Boulogne (Eglwys gadeiriol)