Caci

Oddi ar Wicipedia
Caci
Enghraifft o'r canlynollliw, web color Edit this on Wikidata
Mathmelyn, brown Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Lliw brown golau gydag arlliw gwyrdd neu felyn yw caci.[1] Defnyddir ar gyfer gwisgoedd y fyddin a chuddliw cerbydau milwrol.[2] Mae hefyd yn enw ar frethyn o'r un lliw, a wneir o gotwm, gwlân, neu gyfuniad ohonynt, a gyda ffibrau synthetig. Gwneir mewn nifer o wehyddiadau, megis sers.[3]

Paentiad o'r 33ain Bwnjabïaid, Byddin Brydeinig India ar ddechrau'r 20fed ganrif.

Daw o'r gair Saesneg khaki, sydd yn dod o'r gair Hindi-Wrdw khākī, sef "llychlyd".[4] Rhoddwyd yr enw ar frethyn cotwm caerog[4] a gyflwynodd Syr Harry Burnett Lumsden a William Stephen Raikes Hodson ar gyfer lluoedd y Fyddin Brydeinig yn India ym 1848, a chydnabwyd yn addas iawn ar gyfer gwasanaeth yn y maes a'r maes brwydro. Wedi Gwrthryfel India 1857, daeth yn lliw swyddogol ar gyfer gwisgoedd lluoedd brodorol a threfedigaethol y Prydeinwyr yn India. Yn hwyrach cafodd caci ei fabwysiadu mewn rhannau eraill o'r Ymerodraeth Brydeinig, a gan wledydd eraill. Nid oedd caci cotwm yn addas i hinsawdd De Affrica yn ystod Ail Ryfel y Boer, felly cyflwynwyd sers gwlân neu wstid. Rhoddwyd arlliw olewydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i guddio'n well yn erbyn y ddaear a deiliant.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, [khaki].
  2. Richard Bowyer. Dictionary of Military Terms, 3ydd argraffiad (Llundain, Bloomsbury, 2004), t. 136.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) khaki (fabric). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Mehefin 2015.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) khaki. Oxford English Dictionary. Adalwyd ar 21 Mehefin 2015.