Corfflu Deintyddol Brenhinol y Fyddin

Oddi ar Wicipedia
Corfflu Deintyddol Brenhinol y Fyddin
Enghraifft o'r canlynoluned filwrol Edit this on Wikidata
Rhan oArmy Medical Services Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1921 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Capten o Gorfflu Deintyddol Brenhinol y Fyddin wrth ei waith yng nghanol dinistr yr Ail Ryfel Byd yn Lanciano, yr Eidal, yn Rhagfyr 1943.

Corfflu yn y Fyddin Brydeinig yw Corfflu Deintyddol Brenhinol y Fyddin (Saesneg: Royal Army Dental Corps; RADC) sy'n darparu gwasanaethau deintyddol i aelodau'r Fyddin. Mae'r Corfflu yn rhan o Wasanaethau Meddygol y Fyddin. Mae swyddogion y Corfflu yn ddeintyddion llawfeddygol a'r rhengoedd eraill yn dechnegwyr ac yn gynorthwywyr llawfeddygol.[1]

Ffurfiwyd Corfflu Deintyddol y Fyddin (Saesneg: Army Dental Corps; ADC) ym 1921 gyda deintyddion o Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Ail-enwyd yn Gorfflu Deintyddol Brenhinol y Fyddin ym 1946.[2] Gwasanaethodd dros 2000 o aelodau'r Corfflu, neu fang-snatchers, yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1]

Am fwyafrif oes y Corfflu roedd ei bencadlys ar Evelyn Woods Road yn Aldershot, ond bellach fe'i leolir gyda gweddill Gwasanaethau Meddygol y Fyddin yn Camberley. Birgitte, Duges Caerloyw, yw Prif Gyrnol y Corfflu. Mae Cymdeithas Corfflu Deintyddol Brenhinol y Fyddin yn cynnal Penwythnos y Corfflu pob mis Medi yn Aldershot. Pan yn gorymdeithio mae aelodau'r Corfflu yn cludo cleddyfau a bidogau ond nid ydynt yn eu dwyn, i symboleiddio bod y Corfflu Deintyddol a'r Corfflu Meddygol yn dwyn arfau i amddiffyn eu hunain yn unig, yn unol â Chonfensiynau Genefa.[1]

Cyfansoddwyd yr ymdeithgan Green Facings ym 1953, a mabwysiadwyd gan y Corfflu ym 1954. Mae'r ymdeithgan hon yn seiliedig ar yr alawon Green Broom a Greensleeves, ac mae'r teitl yn dynodi gwisg y Corfflu.[1]

Gwisg[golygu | golygu cod]

Glas gyda pheipiad a ffesin emrallt yw lliwiau gwisg Corfflu Deintyddol Brenhinol y Fyddin.[2] Mae capiau a gwregysau stabl ar gyfer gwasanaeth yn y maes yn emrallt, glas, a choch ceirios. Mae gwisg filwrol yr holl rengoedd yn cynnwys y cortyn gwddf gwyrdd ers 1952. Mae gan swyddogion a swyddogion gwarant jersis gwyrdd i wisgo yn y barics.[1]

Bathodyn cap[golygu | golygu cod]

Mabwysiadwyd bathodyn cap y Corfflu ym 1948. Mae'n dangos pen draig, gyda chleddyf rhwng ei dannedd, o fewn coronbleth lawryf gydag arwyddair y Corfflu, Ex dentibus ensis (Lladin am "gleddyf o'r dannedd"). Ysbrydolwyd y ddelwedd hon gan stori Cadmus ym mytholeg Roeg: gwnaeth Cadmus ladd draig ac yna wnaeth hau dannedd y ddraig, ac o hynny tyfodd hil filwrol y Spartoí. Gwisgir y bathodyn ar gefnyn gwyrdd ar y beret.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Griffin, t. 170.
  2. 2.0 2.1 Chant, t. 292.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Chant, Christopher. The Handbook of British Regiments (Llundain, Routledge, 1988).
  • Griffin, P. D. Encyclopedia of Modern British Army Regiments (Thrupp, Sutton, 2006).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]