Helynt Profumo
Sgandal gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig ym 1963 oedd Helynt Profumo, a wneyd ar ôl yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel ar y pryd, John Profumo. Datblygodd helynt Profumo wedi i Profumo gael perthynas byr gyda sioeferch, Christine Keeler, a honwyd hefyd i fod yn feistres i ddyn a wyddwn i fod ynysbïwr Rwsiaidd; dywedodd Profumo gelwydd yn Nhŷ'r Cyffredin pan holwyd ef am hyn. Gorfodwyd i Profumo ymddeol oherwydd yr helynt, a niweidwyd enw da llywodraeth y Prif Weinidog Harold Macmillan yn ddifrifol. Ymddeolodd Macmillan ychydig fisoedd yn ddiweddarach oherwydd salwch.
Perthynas Profumo â Keeler [golygu]
Yn ystod yr 1960au cynnar, roedd Profumo, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel yn llywodraeth Ceidwadol Harold Macmillan, yn briod i'r actores Valerie Hobson. Ym 1961, cyfarfodd Profumo â Christine Keeler, sioeferch o Lundain, mewn parti tŷ yn Cliveden, y plasdy yn Swydd Buckingham a oedd yn eiddo i'r Arglwydd Astor. Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, honodd mewn sgwrs gyda'i fab, David, ei fod wedi cyfarfod â Keeler cyn hynnu mewn clwb nos yn Llundain, sef Murray, ac mae'n debygol iddo fod wedi yfed gyda hi.[1] Hefyd yn bresennol yn y parti yn Cliveden, oedd gwraif Profumo a'r osteopath ffasiynol, Dr Stephen Ward, a oedd yn adnabod Keeler ers cryn amser.
Ni barhaodd y berthynas gyda Keeler fwy na cwpl o wythnosau cyn i Profumo ddod ag ef i ben. Ond, daeth sôn am y berthynas yn gyhoeddus ym 1962, yr un adeg a honiadau i Keeler gael perthynas gyda Yevgeny "Eugene" Ivanov, uwch-attaché llyngesol yn llysgenadaeth yr Undeb Sofietaidd yn Llundain. Oherwydd safle Profumo yn y llywodraeth, a sefyllfa y Rhyfel Oer ar y pryd, roedd y canlianau posibl yn nhermau diogelwch y genedl yn rai difrifol. Oherwydd hyn, a natur godinebol perthynas Profumo gyda Keeler, daeth yr achos yn fuan yn helynt cyhoeddus.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ David Profumo (2006). Bringing the House Down
Dolenni allanol [golygu]
- Fideo You Tube, Dusty Springfield yn canu "Nothing has Been Proved"
- Lewis Morley (1963). Christine Keeler astride a copy of an Arne Jacobsen chair. Victoria and Albert Museum. URL