Rachel Rice
Oddi ar Wicipedia
Actores yw Rachel Rice (ganwyd 7 Mawrth 1984), mwyaf enwog am fod yn enillydd Big Brother 2008. Hi yw'r Gymraes gyntaf i ennill y rhaglen.
Dechreuodd actio yn y ffilm Night train to Venice yn 1993 a arweinodd at nifer o rolau eraill yn ffilmiau ac ar y teledu. Mae ganddi radd yn Llenyddiaeth Saesneg a Drama ac yn hyfforddi i fod yn athrawes ysgol gynradd ar hyn o bryd.
Yn Big Brother 2008, enillodd gefnogaeth am ei phersonoliaeth gref a'i phen gadarn wrth wynebu ymosodiadau wrth gystadleuthwyr eraill. Tra yn y tŷ gwnaeth ffrindiau gyda chyd-gystadleuthwyr Kathreya, Darnell, Mikey, Mohammed a Rex. Enillodd y rhaglen gyda 51% o'r bleidlais derfynnol rhyngddi a Mikey.
Ffilmiau [golygu]
| Blwyddyn | Ffilm/Teledu | Rôl |
|---|---|---|
| 2008 | Big Brother 2008 DU | Ei hun (Enillydd) |
| 2007 | The History of Mr Polly | Ffrind Christabel |
| 2001 | Happy Now | Ail gystadleuwr |
| 1996 | The Prince and the Pauper | Prissy |
| 1995 | Mister Dog | Guilia |
| 1994 | The Lifeboat | Debbie |
| 1994 | The Adventures of Sherlock Holmes | Marina Savage |
| 1993 | Night Train to Venice | Pia |
Dolen Allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan Swyddogol