Ynys Bouvet

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cornel dde-ddwyreiniol Ynys Bouvet yn 1898

Mae Ynys Bouvet (Norwyeg Bouvetøya) yn ynys fwlcanaidd is-Antarctigaidd yn Môr Iwerydd y De, i'r de-orllewin o Benrhyn Gobaith Da, De Affrica, oddi ar gyfandir yr Antarctig.

Mae'r ynys yn ddibynnol ar Norwy ond nid yw'n ffurfio rhan o deyrnas Norwy ei hun. Ni chynwysir Ynys Bouvet yn Nghytundeb yr Antarctig am ei bod yn rhy bell i'r gogledd. Does neb yn byw ar yr ynys.

Daearyddiaeth[golygu]

Map o Ynys Bouvet

Lleolir Ynys Bouvet yn 54°26' De, 3°24' Dwyrain. Mae'r ynys yn mesur tua 12 km ar draws ar ei lletaf. Ei harwynebedd yw 58.5 km² gyda 93% ohoni'n orchuddiedig gan rewlifoedd sy'n llesteirio mynediad i'r glannau deheuol a dwyreiniol; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km².

Nid oes gan yr ynys na phorthfa na harbwr, dim ond angorfeydd oddi ar yr arfordir, ac felly mae'n lle anodd i'w cyrraedd o'r môr. Mae'r rhewlifoedd yn ffurfio haen trwchus o rew sy'n disgyn i'r môr yn glogwynni rhew uchel neu ar draethau duon o dywod fwlcanaidd. Amgylchynir y 29.6 km (18.4 milltir) o arfordir gan bac rhew yn aml.

Ceir tri mynydd arni, sef Olavtoppen (780m) yn y gogledd, a Mosbytoppen (670m) a Lykketoppen (766m) yn y gorllewin. Mae silff craig lafa a ymddangosodd ar lan orllewinol yr ynys rhwng 1955 a 1958 yn cynnig lle i adar nythio.

Mae Ynys Bouvet, fel Tristan da Cunha, Ynys y Pasg ac Ynys Pitcairn, yn un o'r ynysoedd mwyaf anghysbell yn y byd. Y tir agosaf yw Queen Maud Land yn Antarctica, dros 1,600 km (1,000 milltir) i ffwrdd yn y de, sydd ei hun yn anghyfanedd.

Hanes[golygu]

Darganfuwyd Ynys Bouvet ar yr 11 Ionawr, 1739, gan y morwr Jean-Baptiste Charles Bouvet de Lozier oedd yn arwain y llongau hwyliau Ffrengig Aigle a Marie. Ond gan nad oedd lleoliad yr ynys wedi'i gofnodi'n iawn ac nad oedd Bouvet wedi hwylio oddi amgylch yr ynys, roedd yn anodd gwybod os oedd Ynys Bouvet yn ynys neu'n rhan o gyfandir.

Ni welwyd yr ynys eto tan 1808, gan gapten Lindsay y llong hela morfiloedd Swan o'r Cwmni Enderby. Ni laniodd Lindsay ond gosododd lleoliad yr ynys yn gywir.

Yn Rhagfyr 1822 glaniodd y dynion cyntaf ar yr ynys, sef Capten Benjamin Morrell a chriw y Wasp, llong hela morlo. Yn 1825, hefyd yn Rhagfyr, glaniodd Capten Norris meistr y llongau Sprightly a Lively o'r Cwmni Enderby; enwodd yr ynys Liverpool Island a'i hawlio i'r Goron Brydeinig.

Am dros hanner canrif nid oes cofnod o ymweliad, ond yn 1898 hwyliodd Carl Chun o'r fenter Antarctigaidd Almaenig Valdivia yn agos i'r ynys a thynwyd lluniau ohoni.

Yn 1927, arosodd criw Norwyaidd y Norvegia ar yr ynys am fis ac rhoddasant yr enw Norwyaeg Bouvetøya arni, sail hawliad tiriogaethol Norwy i'r ynys; cafodd ei chymryd drosodd ar 21 Rhagfyr, 1927, ac ar 23 Ionawr, 1928 daeth yn diriogaeth Norwyaidd yn sgîl Datganiad Brenhinol. Yn 1930 pasiwyd deddf yn Norwy a wnaeth yr ynys yn diriogaeth ddibynnol dan sofraniaeth coron Norwy ond dim yn rhan o'r deyrnas ei hun.

Yn 1971, gwnaethpwyd Ynys Bouvet a'r dyfroedd tiriogaethol o'i hamgylch yn warchodfa natur. Erys yr ynys yn anghyfanedd, er i orsaf meteorolegol awtomatig gael ei osod yno yn 1977 gan Norwy. Mae gan yr ynys ei chôd ISO ei hun (.bv) ond nis defnyddir. Mae dyrnaid o fentrau radio amatur wedi ymweld â'r ynys. Mae Ynys Bouvet yn gorwedd ym mharth amser Z UTC; Atlantic/St_Helena yw ei pharth yn y gronfa data parthau amser.

Cysylltiadau allanol[golygu]