Un o ddwy ffurf swyddogol yr iaith Norwyeg ysgrifenedig, gyda Nynorsk, yw Bokmål (yn llythrennol, "iaith llyfr"). Mae bokmål yn deillio o ffurfiau Daneg a siaradwyd yn ninasoedd Norwy pan oedd y wlad honno yn perthyn i Ddenmarc. Fe'i cyfyngir yn bennaf i ysgrifennu safonol erbyn heddiw.