Nynorsk
Oddi ar Wicipedia
Un o ddwy ffurf swyddogol yr iaith Norwyeg ysgrifenedig, gyda bokmål, yw Nynorsk (yn llythrennol, "Norwyeg Newydd"). Tra bod bokmål yn deillio o ffurfiau Daneg a siaradwyd yn ninasoedd Norwy pan oedd y wlad honno yn perthyn i Ddenmarc ac yn cael ei defnyddio yn bennaf ar gyfer ysgrifennu safonol erbyn heddiw, mae nynorsk yn ffurf a greuwyd yn y 19eg ganrif gan Ivar Aasen ar sylfaen tafodieithoedd byw gorllewin Norwy. Mae'n llawer agosach i'r iaith lafar na bokmål.