Liechtenstein
|
|||||
| Arwyddair: Für Gott, Fürst und Vaterland | |||||
| Anthem: Oben am jungen Rhein | |||||
| Prifddinas | Vaduz | ||||
| Dinas fwyaf | Schaan | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Almaeneg | ||||
| Llywodraeth | Brenhiniaeth gyfansoddiadol (Tywysogaeth) |
||||
| • Tywysog • Rhaglyw • Pennau y Llywodraeth |
Hans-Adam II Alois Klaus Tschütscher |
||||
| Annibynniaeth • Cytundeb Pressburg |
fel Tywysogaeth 1806 |
||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
160.4 km² (214fed) dibwys |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2007 - Cyfrifiad 2000 - Dwysedd |
34,247 (204fed) 33,307 215/km² (52fed) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2004 $825 miliwn (?) $25,000 (?) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (2003) | n/a (n/a) – n/a | ||||
| Arian cyfred | Ffranc Swisaidd (CHF) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
CET (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
| Côd ISO y wlad | .li | ||||
| Côd ffôn | +423 |
||||
Gwlad fechan yng ngorllewin Ewrop rhwng y Swistir ac Awstria yw Tywysogaeth Liechtenstein neu Liechtenstein.
Cynnwys |
Daearyddiaeth [golygu]
Mae'r mynyddoedd yn codi o Ddyffryn Rhein i uchderoedd o dros 2500m (8000').
Hanes [golygu]
Cafodd y dywysogaeth ei ffurfio trwy uniad siroedd Vaduz a Schellenberg yn 1719. Bu'n rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig hyd 1806. Ffurfiodd y wlad undeb doll â'r Swistir yn 1923. Hyd at 1984 nid oedd gan ferched hawl i bleidleisio yn yr etholiad cenedlaethol.
Iaith a diwylliant [golygu]
Yr Almaeneg yw iaith swyddogol y wlad. Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn Gatholigion a'r Eglwys Gatholig yw eglwys swyddogol y wlad.
Chwaraeon [golygu]
Fel yng Nghymru mae tîm peldroed mawr Liechtenstein; FC Vaduz, yn chwarae yn y wlad drws nesaf sef y Swistir. Ar y lefel rhyngwladol mae tîm Leichtenstein yn chwarae ym mhencampwriaethau Ewrop, a'r Byd. Ar ben hyn mae un tîm o Gwpan Liechtenstein yn cael mynediad i'r UEFA Europa League, ac hyd yn oed wedi curo tîm o Latfia yn y European Cup Winners' Cup ym 1996.
Yn rhyngwladol mae nhw wedi trechu: Portiwgal 2-2 yn 2004 Lwcsembwrg 4-0 yn 2006 Gwlad yr Ia 3-0 yn 2007. Latfia 1-0 yn 2008
Yn Olimpics y Gaeaf mae'r Leichtensteinwraig Hanni Wenzel wedi ennill dwy Fedal Aur ac un Arian ym 1980. Ac mae medalau eraill gan y wlad. (Poblogaeth tua 1% o Gymru). Wrth gwrs mae'n wlad Alpaidd felly bron pawb sy'n sgio yn y gaeaf.
Economi [golygu]
Er bod diwydiant ysgafn yn bwysig, twristiaeth yw un o brif ffynonellau incwm. Mae gwerthu stampiau hefyd yn bwysig i'r economi, on nid y o gymharu ag Arian. Mae diwydiant arian yn creu o leiaf 30% o drethi Leichtenstein. A chyda tua 73,700 o gwmniau yno mae mwy nag un cwmni i bob dinesydd. Ar ben hyn mae 'sefydliadau' neu Stiftungen cofrestredig yn Leichtenstein yn cadw arian a chyfoeth miloedd o dramorwyr di-breswyl yn saff rhag awdurdodau treth y byd. Treth uchaf i fusnesau fel hyn yw 20%, a chan fod angen aelod leol i bob cwmni mae cyfreithwyr masnachol y wlad yn elwa yn sylweddol.
- Treth incwm yw 1.2%.
- Treth leol bob comiwn yw 16.5%
- Yswiriant Cenedlaethol 4.3%
- Treth Etifeddu yn dechrau o 0.5%
O Awst 2009, mae llywodraeth Prydain wedi cytuno i rannu gwybodaeth ar y 5,000 o Brydeinwyr a'u £3biliwn mewn ymddiriedolaethau yn y wlad [1] yn ôl safle we y BBC.
