Gemau Olympaidd Modern

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y pump cylch Olympaidd, a cafodd eu cynllunio'n 1913, mabwysiadwyd yn 1914 ac ymddangosont yn y gemau amy tro cyntaf yn 1920.

Digwyddiad cystadleuol aml-chwaraeon yw'r Gemau Olympaidd Modern.[1] Cânt eu rhannu yn emau Haf a gemau Gaeaf, a chânt eu cynnal pob pedair mlynedd (sef cyfnod yr Olympiad[2]). Cynhaliwyd y gemau cyntaf yn 1896 yn Athen, Gwlad Groeg. Cynhalwyd hwy yr un flwyddyn hyd 1992, ond ers hynny maent yn cael eu cynnal dyflwydd ar wahân.

Recorwyd y Gemau Olympaidd gwreiddiol (Groegaidd: Ολυμπιακοί Αγώνες; Olympiakoi Agones) yn 776 CC am y tro cyntaf, yn Olympia, Groeg, a dathlwyd hwy hyd 393.[3] Dangoswyd diddordeb mewn adfywio'r gemau am y tro cyntaf gan y golygydd papur newydd a'r bardd Panagiotis Soutsos yn ei bennill "Dialogue of the Dead" yn 1833.[4] Fe noddodd Evangelos Zappas y cynhaliwyd y Gemau Olympaidd Modern rhyngwladol cyntaf yn 1859. Fe ariannodd hefyd adnewyddiad y Panathinaiko Stadium ar gyfer cynnal y gemau yno yn 1870 ac 1875.[4] Nodwyd hyn mewn cyhoeddiadau a phapurau newydd ar draws y byd, gan gynnyws y London Review, a ddywedodd "the Olympian Games, discontinued for centuries, have recently been revived! Here is strange news indeed ... the classical games of antiquity were revived near Athens".[5]

Sefydlwyd Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd (PRhO) yn 1894, ar symbyliad y bonheddwr Ffrengig, Pierre Frédy, Baron de Coubertin. Y gemau cyntaf i gael eu trefnu gan y PRhO oedd Gemau Olympaidd 1896, yn Athen, Groeg. Cynyddodd cyfranogaeth y Gemau Olympaidd i gynnwys athletwyr o bron pob gwlad ar draws y byd, oddigerth i Gymu a'r Alban! Gyda gwelliant yng nghyfathrebu lloerenol a darllediadau byd-eang ar y teledu, mae'r gemau'n ennill cefnogaeth yn gyson.[6] Y gemau diweddaraf oedd 2004 yn Athen, a'r gemau gaeafol diweddaraf oedd Gemau Olympaidd y Gaeaf, 2006 yn Turin. Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 2008 yn Beijing. bydd 302 o gystadleuau mewn 28 o chwaraeon Olympaidd.[7] Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf yn cynnwys 84 cystadleuaeth mewn 7 o chwaraeon Olympiadd ers 2006.[8]

Y 5 Cylch

Baron de Coubertin a luniodd y 5 Cylch yn symbol o'r gemau. Mae'r 5 cylch yn cyrychioli prif gyfandiroedd y byd sef Asia, Ewrop, Affrica, Amerig ac Oceania.

Cystadlu'n Deg

Ar ddechrau pob gemau Olympaidd bydd y cystadleuwyr yn cymryd llw i gystadlu'n deg ac i gadw at yr holl reolau. Mae un cystadleuydd o'r wlad lle mae'r gemau yn darllen y llw ar ran gweddill y cystadleuwyr. Gŵr o'r enw Baron de Coubertin, sef syfaenydd y gemau modern, ysgrifennodd y llw a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf yn 1920.

Amaturiaeth[golygu]

Datblygodd y syniad o amaturiaeth yn y 19eg ganrif yn Lloegr fel ffordd o atal y dosbarth gweithiol rhag cystadlu yn erbyn y byddigions. Gallai'r byddigions gymryd rhan mewn chwaraeon heb boeni am ennill bywoliaeth. Nid felly eraill. Byddent yn treulio amser yn ymarfer ac yn dod yn broffesiynol os yn derbyn arian am berfformio. Dros y blynyddoedd gwnaeth y diffiniad o fod yn amatur newid

Ffynonellau[golygu]

  1.  Olympic Games. International Olympic Committee.
  2. "Introduction - The Summer Games and Winter Games", The Modern Olympic Games (PDF), International Olympic Committee, tud. tud. 2. URL
  3.  Ancient Olympic Games. Microsoft Corporation.
  4. 4.0 4.1 David C. Young, The Modern Olympics - A Struggle for Revival, The Johns Hopkins University Press, 1996, ISBN 0-8018-5374-5
  5. London Review, September 15, 1860.
  6.  Olympic Games - Recent Developments. Microsoft® Encarta® Online Encyclopedia 2006. Microsoft Corporation (1997-2006).
  7.  Beijing 2008: Games Programme Finalised. International Olympic Committee (27 Maerth 2006).
  8.  Turin 2006. International Olympic Committee.