Recep Tayyip Erdoğan
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd Tyrcaidd yw Recep Tayyip Erdoğan (ganed 26 Chwefror 1954 yn Istanbul) sy'n Brif Weinidog Twrci er 11 Mawrth 2003, y nawfed i ddal y swydd honno.
Ef yw arweinydd y blaid Adalet ve Kalkınma Partisi (AKP), sy'n disgrifio ei hun fel plaid "Fwslemaidd gymhedrol".
Dilynodd Erdoğan bolisi sefydlog Twrci o gael perthynas da gydag Israel, ond beirniadodd y wladwriaeth honno yn gryf ar ôl i filwyr Israelaidd ymosod ar lynges ddyngarol ar ei ffordd i Gaza ym Mai 2010.