Plaid Cyfiawnder a Datblygu

Oddi ar Wicipedia
Plaid Cyfiawnder a Datblygu
Enghraifft o'r canlynolplaid wleidyddol Edit this on Wikidata
Idiolegrhyddfrydiaeth economaidd, Neo-Ottomanism, Conservative democracy, social conservatism, national conservatism, centralism, Erdoğanism, Euroscepticism Edit this on Wikidata
Label brodorolAdalet ve Kalkınma Partisi Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu14 Awst 2001 Edit this on Wikidata
SylfaenyddRecep Tayyip Erdoğan Edit this on Wikidata
PencadlysAnkara Edit this on Wikidata
Enw brodorolAdalet ve Kalkınma Partisi Edit this on Wikidata
GwladwriaethTwrci Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.akparti.org.tr/en, https://www.akparti.org.tr/, https://www.akparti.org.tr/ar Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo'r AKP.

Plaid wleidyddol yn Nhwrci yw Plaid Cyfiawnder a Datblygu (Tyrceg: Adalet ve Kalkınma Partisi, talfyrir fel AKP). Mae'r AKP yn dweud ei bod yn blaid gymhedrol a cheidwadol sy'n argymell economi marchnad rydd ac sydd o blaid aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i Dwrci.[1] Yn 2005, rhoddwyd aelodaeth dyst i'r AKP yr European People's Party. Enillodd AKP 46.6% o'r bleidlais gan ennill 341 sedd yn etholiad Twrci 22 Gorffennaf 2007.[2] Abdullah Gül, aelod blaenllaw o'r AKP a chyn Weinidog Tramor, yw Arlywydd cyfred Twrci, a Recep Tayyip Erdoğan yw arweinydd y blaid a Phrif Weinidog Twrci. Mae gan yr AKP y canran uchaf o gynrychiolwyr benywaidd yn Senedd Twrci.

Sefydlwyd y blaid ar 14 Awst, 2001. Lleolir ei phencadlys yn Ankara, prifddinas y wlad. Mae'n cael ei ystyried yn blaid canol-de.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Turkish Daily News Archifwyd 2012-07-08 yn Archive.is, 2007-07-22.
  2. "Secim". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-09-21. Cyrchwyd 2010-06-02.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.