Tyrciaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Grŵp ethnig a chenedl yw'r Tyrciaid (Tyrceg: Türk ulusu neu Türkler) sy'n byw yn Nhwrci yn bennaf. Defnyddir y gair hefyd i gyfeirio at ddinasyddion Twrci yn gyffredinol, ond dydy'r Cyrdiaid yn nwyrain Twrci ddim yn ystyried eu hunain yn 'Dyrciaid' o ran cenedligrwydd. Yn ogystal, ceir nifer o Dyrciaid neu bobl o dras Dyrcaidd sydd i'w cael fel lleiafrifoedd ethnig ar hen diriogaeth Ymerodraeth yr Otomaniaid (yn bennaf yn Bwlgaria, Cyprus, Georgia, Gwlad Groeg, Irac, Kosovo, Macedonia, Rwmania a Syria). Ceir cymunedau o fewnfudwyr Tyrcaidd yn Ewrop hefyd (yn enwedig yn yr Almaen, Ffrainc, gwledydd Prydain, a'r Iseldiroedd), ac yng Ngogledd America ac Awstralia. Maent yn wreiddiol o Ganolbarth Asia ac yn siarad Tyrceg fel mamiaith.

Flag Turkey template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.