Sam Houston

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sam Houston
Sam Houston

7fed Llywodraethwr Texas
Cyfnod yn y swydd
21 Rhagfyr 1859 – 18 Mawrth 1861
Rhagflaenydd Hardin Richard Runnels
Olynydd Edward Clark

Seneddwyr Unol Daleithiau o Texas
Cyfnod yn y swydd
21 Chwefror 1846 – 3 Mawrth 1859
Rhagflaenydd Dim
Olynydd John Hemphill

3ydd Arlywydd Gweriniaeth Texas
Cyfnod yn y swydd
13 Rhagfyr 1841 – 9 Rhagfyr 1844
Rhagflaenydd Mirabeau B. Lamar
Olynydd Anson Jones

1af Arlywydd Gweriniaeth Texas
Cyfnod yn y swydd
22 Hydref 1836 – 10 Rhagfyr 1838
Rhagflaenydd Dim
Olynydd Mirabeau B. Lamar

8fed Llywodraethwr Tennessee
Cyfnod yn y swydd
1 Hydref 1827 – 16 Ebrill 1829
Rhagflaenydd William Carroll
Olynydd William Hall

Geni 2 Mawrth 1793(1793-03-02)
Swydd Rockbridge, Virginia
Marw 26 Gorffennaf 1863 (70 oed)
Huntsville, Texas
Plaid wleidyddol Plaid Ddemocrataidd
Priod Eliza Allen
Diana Rogers Gentry
Margaret Moffette Lea

Gwladweinydd, gwleidydd a milwr Americanaidd o'r 19eg ganrif oedd Samuel Houston (2 Mawrth, 179322 Gorffennaf, 1863). Arweiniodd Texas i annibyniaeth ym mrwydr San Jacinto a daeth yn arlywydd cyntaf Gweriniaeth Texas.

Fe'i ganwyd yn Timber Ridge yng Nghwm Shenandoah, Virginia, yn bumed mab i Major Samuel Houston, linach Sgotig Ulster, a'i wraig Elizabeth Paxton. Ar ôl marwolaeth ei dad ym 1807, symudodd y teulu i Tennessee ddwyreiniol. Ymladdodd Sam Houston yn y Rhyfel 1812 ble cyfarfu'r mentor Andrew Jackson. Astudiodd yn swyddfa yn Nashville a daeth yn gyfreithiwr yn Lebanon, Tennessee. Ym 1827, cafodd Houston ei ethol yn Llywodraethwr Tennessee. Fe briododd Eliza Allen, 19 oed, o Gallatin, Tennessee ar 22 Ionawr 1829, ond daeth y briodas i'w phen yn fuan wedyn. Aeth Houston i'r gorllewin i fyw gyda'r Cherokee yn Nhiriogaeth Arkansas.

Aeth Houston i Texas Mecsicanaidd yn Rhagfyr 1832. Derbyniodd Texas annibyniaeth o Mexico ar 2 Mawrth 1836. Arweiniodd fyddin Texian i fuddugoliaeth yn erbyn Byddin Mexico dan Antonio López de Santa Anna ym mrwydr San Jacinto ar 21 Ebrill 1836. Daeth Houston yn arlywydd cyntaf Gweriniaeth Texas ar 22 Hydref, 1836.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: