Andrew Jackson

Oddi ar Wicipedia
Andrew Jackson
Ganwyd15 Mawrth 1767 Edit this on Wikidata
Waxhaws Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mehefin 1845 Edit this on Wikidata
The Hermitage Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethbarnwr, cyfreithiwr, gwleidydd, swyddog milwrol, gwladweinydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, grand master, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadAndrew Jackson Edit this on Wikidata
MamElizabeth Hutchinson Edit this on Wikidata
PriodRachel Jackson, Rachel Jackson Edit this on Wikidata
PlantAndrew Jackson Jr., Lyncoya Jackson Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Aur y Gyngres Edit this on Wikidata
llofnod

Andrew Jackson (15 Mawrth 1767 - 8 Mehefin 1845) oedd seithfed arlywydd yr Unol Daleithiau (1829 - 1837). Cafodd ei eni yn nhref Waxhaw, De Carolina.

Ym 1796 cafodd ei ethol yn Aelod o Gynhadledd yr Unol Daleithiau ac ym 1798 cafodd ei wneud yn farnwr. Ond gwnaeth ei enw fel milwr yn y 1810au yn ymladd lluoedd Prydain Fawr a brodorion Americanaidd y De. Cafodd ei lysenwi'n "Gyllell Finiog" gan y brodorion am iddo a'i filwyr ladd rhai miloedd o frodorion o lwythau'r Cherokees, y Chickasaws, y Chocktaws, y Creeks ac yn arbennig y Seminoles; i'r Americanwyr gwyn ei lysenw oedd "Hen Hicori".

O 1821 hyd 1823 roedd yn llywodraethwr Fflorida ac ym 1823 cafodd ei ethol i Senedd yr Unol Daleithiau. Cafodd ei ethol yn arlywydd yn 1828, y Democrat cyntaf i ddal y swydd honno. Rhoddodd heibio'r arlywyddiaeth ym 1837.

Jackson oedd un o'r cyntaf i dderbyn a hyrwyddo'r cysyniad o Dynged Amlwg, sef bod yr Unol Daleithiau ifanc yn wedi ei dynghedu i ymestyn ei ffiniau a rheoli'r rhan fwyaf o Ogledd America.

Bu farw ym 1845 yn 78 oed yn Nashville, Tennessee.

Llinach Geltaidd[golygu | golygu cod]

Y tŷ yn Swydd Antrim lle bu ei rieni'n byw.

O Iwerddon y daeth ei rieni, ddwy flynedd cyn ei eni. Ganwyd ei dad yn Carrickfergus, Swydd Antrim sydd yng Ngogledd Iwerddon heddiw cyn priodi a sefydlu gerllaw ym mhentref Boneybefore. Mae'r tŷ hwn wedi'i droi'n amgueddfa fel coffâd am Andrew Jackson.


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.