Beyoncé Knowles

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Beyoncé Knowles
Beyonce.jpg
Knowles yn 2007
Gwybodaeth gefndirol
Enw genedigol Beyoncé Giselle Knowles
Ganwyd (1981-09-04)

Medi 4, 1981 (33 oed)[1]

Man geni Houston, Texas, yr Unol Daleithiau
Cerddoriaeth R&B, pop, soul
Galwedigaeth(au) Cantores, actores, cyfansoddwraig, cynhyrchydd recordiau, model
Offeryn(au) cerdd Llais
Blynyddoedd 1997 - presennol
Label(i) recordio Columbia
Cysylltiedig Destiny's Child, Jay-Z, Wyclef Jean, Lil Wayne, Letoya
Gwefan http://www.beyonceonline.com/us/home


Beyoncé Assinatura.png
Llofnod Beyoncé

Cantores R&B ac actores yw Beyoncé Giselle Knowles (ganwyd 4 Medi 1981). Roedd hi'n aelod o'r grŵp Destiny's Child. Hefyd mae hi'n gynhyrchydd recordiau ac yn cyfansoddi ei chaneuon ei hun. Fe'i ganed a'i magu yn Houston, Texas, lle mynychodd ysgol berfformio. Dechreuodd gystadlu mewn cystadlaethau canu a dawnsio pan oedd yn blentyn. Daeth Knowles yn enwog ar ddiwedd y 1990au fel prif leisydd y grŵp "Destiny's Child". Tra gyda'r grŵp, gwerthodd Knowles dros 50 miliwn o recordiau'n fyd-eang ac yn ystod ei gyrfa llawn, mae wedi gwerthu dros 75 miliwn o recordiau.

Ym mis Mehefin 2003, tra'n gweithio'n annibynnol o "Destiny's Child", rhyddhaodd Knowles ei halbwm solo cyntaf, Dangerously in Love, a ddaeth yn un o albymau mwyaf llwyddiannus y flwyddyn honno, a daeth Knowles yn amlycach fel artist unigol. Roedd yr albwm yn lwyddiant masnachol ac ymysg y beirniaid cerddorol, a chafodd sawl cân lwyddiant amlwg, gan gynnwys "Crazy in Love", "Baby Boy", a chan ennill pum Gwobr Grammy i Knowles yn 2004. Pan wahanodd "Destiny's Child yn 2005, parhaodd llwyddiant Knowles: aeth ei halbwm nesaf B'Day, a ryddhawyd yn 2006, i rif un y siart Billboard, gan gynhyrchu'r caneuon llwyddiannus "Deja Vu", "Irreplaceable", a "Beautiful Liar". Rhyddhawyd ei thrydedd albwm unigol, I Am… Sasha Fierce, ym mis Tachwedd 2008, a oedd yn cynnwys y caneuon llwyddiannus "If I Were a Boy", "Single Ladies (Put a Ring on It)", a "Halo".

Disgograffi[golygu]

2002/2004[golygu]

  • 2003/2004 - Dangerously in Love World Tour
  • 2004 - Verizon Ladies First Tour (with Alicia Keys & Missy Elliott)

2005/2007[golygu]

  • 2007 - The Beyoncé Experience

2008/2009[golygu]

Ffilmiau[golygu]

Ffynonellau[golygu]

  1. (Saesneg) Beyoncé: Biography. MSN (2008).