Chiba
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl ynglŷn â'r ddinas yw hon. Am y dalaith, gweler Chiba (talaith).
Dinas a phorthladd yn Japan yw Chiba (Japaneg: 千葉市 Chiba-shi), a phrifddinas talaith Chiba yn rhanbarth Kantō ar ynys Honshu. Lleolir 40 kilometr i'r dwyrain o ganol dinas Tokyo ar Fae Tokyo, ac mae'n ffurfio rhan o Ardal Tokyo Fwyaf. Gyda phoblogaeth o tua 960,000 Chiba yw'r 11eg dinas fwyaf yn Japan o ran poblogaeth. Daeth Chiba yn ddinas dynodedig ym 1992.