Perth, Gorllewin Awstralia
| Perth | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn Awstralia | |
| Gwlad | Awstralia |
| Ardal | Gorllewin Awstralia |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | Cyngor y Ddinas |
| Maer | Lisa Scaffidi |
| Pencadlys | Parliament House |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 4.9 milltir sgwar 12.7 km² |
| Uchder | Maes Awyr- 20.4 m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | (Dinas Perth) 13,486 (Cyfrifiad 2007) |
| Dwysedd Poblogaeth | 2,753.2/milltir sgwar 1063 /km2 |
| Metro | 1,554,769 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | UTC+8 (UTC+9 DST) |
| Cod Post | Ansicir |
| Gwefan | http://www.cityofperth.wa.gov.au/ |
- Erthygl am y ddinas yn Awstralia yw hon. Gweler hefyd Perth (gwahaniaethu).
Prifddinas talaith Gorllewin Awstralia yw Perth. Hi yw'r ddinas fwyaf yn y dalaith, gyda phoblogaeth o tua 1.5 miliwn. Cafodd Perth ei sefydlu ym 1829.
Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Perth yw un o'r dinasoedd mwyaf arwahanedig ac arunig yn y byd - y ddinas agosaf yw Adelaide sydd yn Ne Awstralia ac sydd 2,104 kilomedr (1,307 mill) i ffwrdd. Mae'r ddinas yn agosach i Ddwyrain Timor, Singapore a Jakarta sydd yn Indonesia nag i Sydney, Melbourne a Brisbane sydd yn yr un wlad.
[golygu] Cyfathrebau
Mae Awstralia yn wlad eang iawn ac felly dim ond yn y dinasoedd y gwelir priffyrdd. Mae'r ffordd Kwinana Freeway yn ymestyn o Rockingham yn ne'r ddinas i'r CBD (canol busnes dref) a Kings Park. Mae'r Mitchell Freeway yn parhau o’r ardal yma i faestrefi gogleddol y ddinas lle mae'n dod i ben yn Joondalup. Lleolir Maes Awyr Perth yn agos i faestref o’r enw Welshpool a leolir yn ne ddwyrain y ddinas. Mae yna drenau trydanol modern yn y ddinas sy'n cwrdd mewn gorsaf trenau modern tanddaearol yng nghanol y ddinas. Mae cychod yn mewnforio i'r porthladd enfawr yn Fremantle, sy'n 10 milltir o'r ddinas.
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Castell Albany Bell
- Cofadail y Fforwyr
- Eglwys Wesley
- Llyfrgell J S Battye
- Stadiwm Perth
- Tŷ Le Fanu
Mae gan Perth nifer o adeiladau uchel
| Enw | Uchder | Lloriau | Adeiladu | Pwrpas | |
|---|---|---|---|---|---|
| 1 | Central Park | Nodyn:Convert/LoffAonDbSoffNodyn:Convert/test/Aon | 51 | 1992 | Swyddfeydd |
| 2 | BankWest Tower | Nodyn:Convert/LoffAonDbSoffNodyn:Convert/test/Aon | 50 | 1988 | Swyddfeydd |
| 3 | QV.1 | Nodyn:Convert/LoffAonDbSoffNodyn:Convert/test/Aon | 38 | 1991 | Swyddfeydd |
| 4 | Exchange Plaza | Nodyn:Convert/LoffAonDbSoffNodyn:Convert/test/Aon | 40 | 1992 | Swyddfeydd |
| 5 | St Martins Tower | Nodyn:Convert/LoffAonDbSoffNodyn:Convert/test/Aon | 33 | 1977 | Swyddfeydd |
| 6 | Woodside Plaza | Nodyn:Convert/LoffAonDbSoffNodyn:Convert/test/Aon | 28 | 2003 | Swyddfeydd |
| 7 | Allendale Square | Nodyn:Convert/LoffAonDbSoffNodyn:Convert/test/Aon | 31 | 1976 | Swyddfeydd |
| 8 | 140 St Georges Terrace ("AMP Building" gynt) | Nodyn:Convert/LoffAonDbSoffNodyn:Convert/test/Aon | 30 | 1975 | Swyddfeydd |
| 9 | Forrest Centre | Nodyn:Convert/LoffAonDbSoffNodyn:Convert/test/Aon | 30 | 1990 | Swyddfeydd |
| 9 | Governor Stirling Tower | Nodyn:Convert/LoffAonDbSoffNodyn:Convert/test/Aon | 28 | 1978 | Swyddfeydd |
[golygu] Enwogion
- Herb Elliott (g. 1938), athletwr
- Dennis Lillee (g. 1949), chwaraewr criced
[golygu] Demograffeg
Perth yw'r 4ydd dinas yn ôl maint yn y wlad. Poblogaeth y ddinas oedd 1,445,079 yn ôl cyfrifiad 2006. Mae cyfran uchel o'r boblogaeth yn dod o dramor. Dengys hyn yn y tabl isod.
|
tramor arwyddocaol |
|
| Gwlad Genedigaeth | Poblogaeth (2006) |
|---|---|
| Deyrnas Unedig | 171,024 |
| Seland Newydd | 34,661 |
| Malaysia | 18,993 |
| De Affrica | 18,828 |
| Yr Eidal | 18,814 |
| India | 14,094 |
| Singapore | 11,237 |
| Vietnam | 10,078 |
| Iwerddon | 7,813 |
| Netherlands | 7,715 |
| Gweriniaeth Pobl Tsieina | 7,684 |
| Yr Almaen | 7,684 |
| Indonesia | 7,404 |
| Unol Daleithiau America | 5,558 |
| Philippines | 5,222 |
[golygu] Dinaswedd
|
Prifddinasoedd Awstralia |
|
|---|---|
|
Adelaide (De Awstralia) | Brisbane (Queensland) | Canberra (Cenedlaethol, a Tiriogaeth Prifddinas Awstralia) | Darwin (Tiriogaeth Gogleddol) | Hobart (Tasmania) | Melbourne (Victoria) | Perth (Gorllewin Awstralia) | Sydney (De Cymru Newydd) |
|
|
Dinasoedd Gorllewin Awstralia |
|
|---|---|
|
Prifddinas: Perth |
|