Canberra
Oddi ar Wicipedia
| Canberra | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn Awstralia | |
| Gwlad | Awstralia |
| Ardal | ** Molonglo **Ginninderra **Brindabella |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | **Canberra **Fraser |
| Pencadlys | Cynulliad Deddfwriaethol Prif Diriogaeth Awstralia |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 805.6 km² |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 340,800(Cyfrifiad Rhagfyr 2007) |
| Dwysedd Poblogaeth | 1005 /km2 |
| Metro | 18,815,988 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | AEST (UTC+10) |
| Gwefan | http://www.visitcanberra.com.au/ |
Mae Canberra yn brifddinas Awstralia, gyda phoblogaeth o dros 340,000 o bobl. Dyma'r wythfed ddinas fwyaf yn Awstralia. Lleolir y ddinas ar ran ogleddol Tiriogaeth Awstralia, 280 km (170 milltir) i'r de-orllewin o Sydney a 600 km (410 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Melbourne. Dewiswyd lleoliad Canberra fel prifddinas y wlad fel cyfaddawd rhwng Sydney a Melbourne, dwy ddinas fwyaf Awstralia. Mae'r ddinas yn anghyffredin ymhlith dinasoedd Awstralia, am ei bod yn ddinas a gynlluniwyd ac a adeiladwyd am bwrpas. Yn sgîl cystadleuaeth rhyngwladol am gynllun y ddinas, dewiswyd cynllun gan benseiri o Chicago, Walter Burley Griffin a Marion Mahony Griffin, a dechreuwyd ar y broses adeiladu ym 1913. Dylanwadwyd cynllun y ddinas yn fawr gan y mudiad gerddi'r ddinas a oedd yn cynnwys ardaloedd helaeth o dyfiant naturiol ac felly mae gan Canberra y teitl fel "prifddinas y gwylltdiroedd". Er i'r Rhyfeloedd Byd a'r Dirwasgiad Mawr rwystro datblygiad Canberra, datblygodd yn ddinas ffynniannus ar ôl yr Ail Rhyfel Byd.
Fel canolbwynt llywodraeth Awstralia, lleolir y Senedd-dy, Uchel Lys Awstralia a nifer o adrannau ac asiantaethau llywodraethol yno. Yno hefyd y lleolir nifer o sefydliadau cymdeithasol a diwylliannol o arwyddocad sylweddol, megis Cofen Rhyfel Awstralia, Oriel Genedlaethol Awstralia, Amgueddfa Genedlaethol Awstralia a Llyfrgell Genedlaethol Awstralia. Y llywodraeth ffederal sy'n cyfrannu'r canran fwyaf o Gynnyrch Cyfansymiol y Dalaith a nhw yw'r cyflogwyr unigol fwyaf yng Nghanberra.
[golygu] Diwylliant
[golygu] Y celfyddydau ac adloniant
Ceir nifer o gofebau a sefydliadau hanesyddol yng Nghanberra megis Cofeb Rhyfel Awstralia, Oriel Genedlaethol Awstralia, Oriel Darluniau Awstralia, Llyfrgell Genedlaethol Awstralia, Archifdy Cenedlaethol Awstralia, Academi Gwyddoniaeth Awstralia ac Amgueddfa Genedlaethol Awstralia. Mae nifer o adeiladau llywodraeth y Gymanwlad ar agor i'r cyhoedd, gan gynnwys y Senedd-dy, yr Uchel Lys a Mint Frenhinol Awstralia. Lleolir Cofen Captain Hook wrth Lyn Burley Griffin a'r Carillon Cenedlaethol. Ymysg y llefydd eraill o ddiddordeb mae Tŵr y Mynydd Du a Gerddi Botaneg Cenedlaethol Awstralia ar y Mynydd Du, y Sŵ a'r Acariwm Cenedlaethol ar Argae Scrivener, Amgueddfa Cenedlaethol y Deinasoriaid a Questacon - Canolfan Dechnoleg a Gwyddoniaeth Naturiol.
|
Prifddinasoedd Awstralia |
|
|---|---|
|
Adelaide (De Awstralia) | Brisbane (Queensland) | Canberra (Cenedlaethol, a Tiriogaeth Prifddinas Awstralia) | Darwin (Tiriogaeth Gogleddol) | Hobart (Tasmania) | Melbourne (Victoria) | Perth (Gorllewin Awstralia) | Sydney (De Cymru Newydd) |
|


