Plovdiv

Oddi ar Wicipedia
Plovdiv
Mathdinas fawr, tref weinyddol ddinesig, tref weinyddol yr oblast, dinas ym Mwlgaria Edit this on Wikidata
Poblogaeth370,975, 385,881 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethIvan Totev Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Leipzig, Jeddah, Bursa, Leskovac, Petra, Valencia, Thessaloníci, Gyumri, Kumanovo, Košice, Okayama, Brno, Istanbul, Kutaisi, Luoyang, Ohrid, Poznań, St Petersburg, Columbia, De Carolina, Changchun, Samarcand, Lviv, Shenzhen, Rhufain, Kastoria, Ekaterinburg, Ivanovo, Donetsk, Daegu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Plovdiv Edit this on Wikidata
GwladBaner Bwlgaria Bwlgaria
Arwynebedd101.98 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr164 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawMaritsa Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.142086°N 24.741454°E Edit this on Wikidata
Cod post4000 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethIvan Totev Edit this on Wikidata
Map
Yr amffitheatr Rhufeinig, Plovdiv.

Ail ddinas fwyaf Bwlgaria ar ôl Sofia yw Plovdiv (Bwlgareg Пловдив, Groeg Philippopolis / Φιλιππούπολη). Poblogaeth y ddinas yw tua 380,135 [1], a phoblogaeth rhanbarth Plovdiv yw 715,816 (Cyfrifiad 2001).

Lleoliad Plovdiv yn Bwlgaria

Mae pobl yn byw ar safle presennol Plovdiv ers 8000 o flynyddoedd. Yn 342 CC, goresgynnwyd y ddinas gan Philip II o Facedon, a'i gwnaeth yn brifddinas ei deyrnas gan ei hailenwi ar ôl ei hun yn Philippopolis (dinas Philip). Roedd Plovdiv, o dan ei enw Rhufeinig Trimontium (dinas y tri bryn), yn ddinas bwysig yng nghyfnod y Rhufeiniaid ac yn brifddinas i'r rhanbarth Rhufeinig Thracia. Yn y 1970au darganfuwyd amffitheatr Rufeinig odidog yno.

Bellach, Plovdiv yw canolfan weinyddol Rhanbarth Plovdiv yn ne Bwlgaria a thair bwrdeisdref (Plovdiv, Maritsa a Rodopi) ac ardal gynllunio Yuzhen tsentralen Bwlgaria. Mae'r ddinas yn bwysig o safbwynt economaidd, trafnidiaeth, diwylliannol ac addysgiadol. Mae Plovdiv hefyd yn cynnal digwyddiadau economaidd a diwylliannol fel Ffair Rhyngwladol Plovdiv, yr ŵyl theatrig rhyngwladol "A scene on a crossroad", a gŵyl deledu "The golden chest".

Lleolir Plovdiv yn rhan ddeheuol o Wastadir Plovdiv ar ddwy lan Afon Maritsa. Yn hanesyddol, mae'r ddinas wedi'i datblygu ar saith bryn syenit, gyda rhai ohonynt yn 250 m o uchder. Oherwydd y bryniau uchel hyn, weithiau cyfeirir at Plovdiv ym Mwlgaria fel "Dinas y Saith Bryn".

Oriel[golygu | golygu cod]

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [General Directorate of Citizens' Registration and Administrative Services: Siart Poblogaeth ar gyfer Dinas Plovdiv, Bwlgaria ar 15 Awst, 2009. Adalwyd ar 2009-08-16
Eginyn erthygl sydd uchod am Fwlgaria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.