Guangzhou
Oddi ar Wicipedia
Guangzhou ( 广州), hefyd Canton, yw prifddinas talaith Guangdong, Gweriniaeth Pobl Tsieina. Roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 2005 yn 3,152,825, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 9,496,800. Hi yw trydydd ardal ddinesig Tsieina o ran poblogaeth, ar ôl Beijing a Shanghai.
Saif y ddinas ger aber Afon y Perlau, heb fod ymhell o Hong Kong. Credir i'r ddinas gael ei sefydlu gyntaf fel Panyu yn 214 CC. Anrheithiwyd y ddinas gan Arabiaid a Persiaid yn 758. Datblygodd i fod yn borthladd pwysig, ac mae'n parhau i fod yn un o borthladdoedd mwyaf y byd heddiw.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Mosg Huaisheng
- Stadiwm Yuexiushan
- Tŵr Zhenhai
Enwogion [golygu]
- I. M. Pei (g. 1917), pensaer
- Zi Lan Liao (g. 1970), cerddores