Memel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Memel
Klaipeda old town.jpg
Landkarte Klaipeda.PNG
Lleoliad yn Lithwania
Gwlad Lithwania
Llywodraeth
Daearyddiaeth
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 157350 (Cyfrifiad 2014)
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser EET (UTC+2),

Haf: EEST (UTC+3)

Gwefan http://www.klaipeda.lt
Memel

Dinas trydydd-fwyaf Lithwania yw Memel[1] (Lithwaneg: Klaipėda, amlwg [ˈkɫɐɪˑpʲeːd̪ɐ]( gwrando)). Dyma lle mae Afon Nemunas yn llifo i mewn i'r Môr Baltig. Memel yw phrifddinas sir Memel.

Arfbais Memel
Map o Memel

Mae defnydd o'r enw "Memel", sydd o darddiad Lladin trwy Almaeneg (yn deillio o'r ymadrodd "Castrum Memele", a ddefnyddiwyd gyntaf tua 1250) mewn testunau Cymraeg i gyfeirio at y ddinas hon wedi cael ei defnyddio mor bell yn ôl â'r 16eg ganrif. "Memel" hefyd yw'r enw Almaeneg a'r enw Saesneg hanesyddol am y ddinas.

Mae Porthladd Memel yn bwysig yn yr ardal. Mae'r porthladd fel arfer yn rhydd o iâ'r Môr Baltig. Bu dan reolaeth y Marchogion Tiwtonaidd, Prwsia, yr Ymerodraeth Almaenig, yr Entente, Lithwania, a'r Trydydd Reich. Daeth y ddinas yn rhan o Lithwania tra roedd yn Weriniaeth Sosialaidd Sofietaidd.

Parhaodd Memel yn rhan o Lithwania yn dilyn annibynniaeth y wlad. Ciliodd y boblogaeth o 207,100 yn 1992 i 177,823 yn 2011. Mae cyrchfannau glan môr poblogaidd yn agos at Memel yn Nida i'r de ar y Dafod Curoniaidd, a Palanga i'r gogledd.

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag of Lithuania.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Lithwania. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.