Cartograffeg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwyddorau daear
Gwyddorau daear

Bioamrywiaeth
Cartograffeg
Cloddio
Daeareg
Daearyddiaeth
Defnydd tir
Demograffeg
Ecoleg
Eigioneg
Geocemeg
Hanes daearegol
Hydroleg
Meteoroleg
Morffoleg
Mwynyddiaeth
Paleontoleg
Petroleg
Rhewlifeg
Seismoleg

Gwyddor gwneud mapiau a globau yw cartograffeg. Yn y gorffennol roedd cartograffwyr yn defnyddio pin a phapur i wneud hynny, ond erbyn heddiw mae llawer o fapiau yn cael eu gwneud trwy ddefnyddio cyfrifiaduron gyda meddalwedd arbennig: dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD), Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) neu feddalwedd dylunio mapiau arbennig eraill.

Hanes[golygu]

Ail-luniad o fap y byd gan Hecataeus, tua 500 C.C.

Dylunwyd y map cynharaf tua 5000 CC, ond achosodd darganfod geometreg (yn Babylonia, tua 2300 CC) ddatblygiadau mawr yn hanes gwneuthuriad mapiau. Mae'n bosib weld hynny ar fap enwog o Nippur (Babylonia, tua 1400-1200 C.C.) a mapiau o'r cyfnod clasurol o'r Aifft.

Cafwyd datblygiadau pellach yng Ngroeg yr Henfyd. Ygrifennodd Strabo (tua 63 CC i 21 OC) ei lyfr dylanwadol Geographia. Daearegwyr enwog eraill o'r cyfnod yw Thales o Filetos, Anaximandros o Filetos, Aristarchus o Samos (y dyn cyntaf i ddweud fod y Ddaear yn symud o gwmpas yr haul) ac Eratosthenes o Cyrene. Mae dylanwad Pythagoras ac Aristoteles yn bwysig hefyd. Yn y cyfnod hwnnw y cyflwynwyd y system o hydred a lledred sy'n cael ei ddefnyddio heddiw.

Un o gartograffwyr enwog yr Oesoedd Canol oedd Roger Bacon. Ond roedd y mwyafrif o'r mapiau a ddylunwyd yn ystod yr Oesoedd Canol yn dangos y byd yn ôl syniadaeth grefyddol y cyfnod, gyda'r tir i gyd yng nghanol disg fawr a'r môr o'i gwmpas. Fodd bynnag, roedd teithiau cyntaf Ewropwyr i'r gorllewin a'r diddordeb mewn gwledydd tramor a chreu gwladfeydd a ddaeth yn sgîl hynny, yn ysbardun i ddatblygu technegau cartograffeg newydd ar linellau mwy gwyddonol.

Gweler hefyd[golygu]