Hydroleg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Tywi yn dirwyn ar draws Sir Gaerfyrddin rhwng Dryslwyn a Llanegwad

Hydroleg yw'r astudiaeth wyddonol o leoliad a symudiad dŵr ar wyneb y Ddaear neu drosti. Mae hydroleg yn ymwneud yn bennaf â bwrw (glaw, eira, cenllusg), ageriad a thrydarthu, a llif ffrydiau dŵr o bob math. Gelwir y broses naturiol sy'n cyfuno'r elfennau hyn y 'cylch hydrolegol', sy'n symudiad cylchynol o ddŵr o'r moroedd i'r atmosffer ac yn ei ôl.

Mae gan hydroleg lawer o ddefnydd ymarferol, e.e. i geisio rheoli gorlifadau afonydd ac i gyflenwi dŵr ar gyfer y cartref, gweithfeydd, a ffermydd, yn ogystal â chynlluniau trydan hydroelectrig.

Mae'r system dalgylch hydrolegol yn cynnwys nifer o fewnbynnau, storfeydd, llifau ac allbynnau.

System Dalgylch Afon[golygu]

Dalgylch afon yw'r ardal sy'n cael ei ddraenio gan afon a'i llednentydd, neu yn syml, y llinell sy'n bosib ei thynnu o amgylch y brif afon a'i isafonydd. Mae'r symudiad dŵr drwy dalgylch afon yn rhan allweddol o'r cylchred hydrolegol byd-eang sef y cylchred parhaol o ddŵr rhwng y ddaear, môr a'r atmosffêr. Mae dyodiad yn trosglwyddo dŵr i wyneb y ddaear lle mae mwyafrif ohono'n naill ai'n ymdreiddio a'r graig wely, neu'n anweddu. O dan amodau eithafol mae'r dŵr yn medru llifo dros yr arwyneb fel dŵr ffo, cyn cyrraedd sianel afon a llifo ymlaen i'r môr.

Mewn dalgylch afon mae’r symudiadau dwr yn ffurfio system lle gellir adnabod mewnbynnau, allbynnau, storfeydd a llifau. Gan fod afonydd yn cadw i symud (oni bai afonydd sydd wedi sychu megis y Gascoyne- Awstralia sydd yn sych trwy’r gaeaf) mae’n rhaid bod yna rhyw fath o gylched. Dyma’r system dalgylch afon. Rydym yn dechrau mewnbwn y system efo dyodiad. Dyma’r prif fewnbwn. Dyodiad yw unrhyw fath o ddŵr mewn unrhyw gyflwr ffisegol sy’n disgyn ar y tir, gall hyn amrywio o law, i eira, i gesair. Wrth i dyodiad (law rhan fwyaf) disgyn mae hyn yn llifo i ardaloedd gwahanol yn dibynnu ar nifer o ffactorau megis y tywydd, tirwedd a graddiant y tir, math o graig, a faint o leithder mae’r tir yn cynnwys. Mae llawer o’r glaw yn ymdreiddio i’r tir ond mae hyn yn dibynnu ar ba mor athraidd ydy hi. Os yw’r tir yn ddirlawn fe fydd mwy o ddŵr trostir, sef y dŵr sy’n aros ar arwyneb y tir. Wrth i ddŵr disgyn mewn coedwigoedd a llefydd efo llawer o blanhigion fe fydd dwr yn cael ei rhyngipio gan y dail. Fydd canran o’r dŵr sydd yn cyrraedd y llawr yn yr ardaloedd yma yn cael eu trydarthu trwy’r planhigion ar gyfer creu ffotosynthesis. Fe fydd rhan fwyaf o’r dŵr trostir sydd ar yr arwyneb yn llifo i afonydd a fydd y dŵr yn llifo i lawr y dyffrynnoedd. Tra bod y dŵr yn llifo ffeindiwn fod yna rhai storfeydd- dyma yw’r ardaloedd lle bo dwr yn aros yn llonydd. Y prif storfeydd ydy llynnoedd, gall y rhain fod yn rhai naturiol neu yn gronfeydd dwr sydd wedi eu hadeiladu gan ddyn. Gall fod yna storfeydd dros dro hefyd. Gall tymereddau isel rhewi afonydd a llynnoedd gan atal hwy i symud. Yn ogystal gall dyodiad sy’n cwympo fel eira atal y llif trostir rhag ymdreiddio neu gyrraedd yr afon felly cynhwysir hyn fel storfa. Yr ail fewnbwn ydy dwr daear i’r afonydd. Wrth i dwr ymdreiddio i’r pridd uwch yn y dyffrynnoedd mae’n creu trwylif dwr daear. Mae’r dwr yma yn creu nentydd bach o gwmpas y wlad (gwelir sp. sy'n sefyll am spring ar fap). Wrth i ni gyrraedd diwedd y system rhaid i ni gael allbwn. Y prif allbwn ydy anweddi ac mae hyn yn digwydd ar ei fwyaf o’r môr, ond mae anweddi yn digwydd trwy’r system i gyd. Yr ail allbwn ydy trydarthiad ac mae hyn yn digwydd mewn coedwigoedd ac ardaloedd gwledig. Mae’r lleithder atmosfferig yma yn disgyn nôl ar y tir ac mae’r system yn dechrau unwaith eto.

Mae'r lliwiau isod yn allwedd i'r diagram

Mewnbynnau Llifau Storfeydd Allbynnau
Glaw Ymdreiddiad Pant/ Llynoedd Anweddiad
Eira Trylifiad Moroedd Trydarthiad
Cesair Llif trostir Lleithder Pridd
Eirlaw Trwylifiad Dwr Daear
Dyodiad Llif Gwaelodol Lleithder Atmosfferig
Ynni'r Haul Afon Rhewlif (neu maes eira)
Cylch ddŵr

Diffiniadau'r prosesau[golygu]

Rhyng-gipiad[golygu]

Gorchuddir y mwyafrif o dalgylchoedd afon gan rhyw fath o lysdyfiant, sy'n amrywio o lwyni a phrysg mewn ardaloedd lled-cras (semi-arid); glaswellt, a coedwigoedd conwydd. Gelwir pan mae dŵr yn cael ei atal wrth cyrraedd yr afon yn rhyng-gipiad. Mae rhyng-gipiad yn lleihau lefelau'r afon ac yn rhwystro erydiad tir.

Storio mewn pantiau[golygu]

Unwaith i ddŵr cyrraedd arwyneb y ddaear mae'n medru casglu mewn tyllau a phantiau gan ffurfio pyllau bach. Fe fydd y dŵr naill ai'n anweddu, ymdreiddio'n araf i'r pridd neu'n ffurfio llif trostir.

Trydarthiad[golygu]

Dyma yw'r broses lle mae planhigion yn rhyddhau dŵr trwy dyllau bach a elwir yn stomata oddi tan y dail. Mae hyn yn golled i'r system dalgylch afon.

Anweddiad[golygu]

Dyma yw'r broses pan mae dŵr yn gael ei golli o'r system.

Lleithder Pridd[golygu]

Mae gweadedd priddoedd yn amrywio yn fawr iawn. Pan fo pridd yn dirlawn ac yn cael ei adael i ddraenio dywedir fod yn dal ei gynhwysydd maes. Mesurir hyn mewn milimetrau.

Trwylif[golygu]

Dyma'r llif dŵr trwy'r pridd. Mae'r dŵr yn llifo i lawr y llethr yn parallel i arwyneb y ddaear.

Llif dŵr daear[golygu]

Os yw'r graig y wely yn anathraidd, bydd y dŵr yn trylifo'n araf iddo o'r pridd uwchlaw. Mae trosglwyddiadau dŵr daear yn araf dros ben, ac yn cymrud degau neu gannoedd o flynyddoedd.

Gweler hefyd[golygu]