Eigioneg
Oddi ar Wicipedia
Yr astudiaeth wyddonol o bob agwedd sydd yn ymwneud â chefnforoedd y Ddaear yw eigioneg, cefnforeg neu wyddor fôr. Cangen o'r gwyddorau daear yw hi sy'n cynnwys bioleg fôr, ceryntau a thonnau, daeareg gwaelod y môr, tectoneg platiau ac ati. Mae'r pynciau hyn yn cwmpasu amlddisgyblaethau sy'n cael eu cyfuno gan yr eiconegydd er mwyn dod i ddeall mwy a mwy am y môr a'r prosesau gwaelodol sydd fel sail iddi: bioleg, daeareg, meteoroleg, daearyddiaeth a ffiseg.