Tectoneg platiau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mapiwyd platiau tectonig y byd yn ail hanner yr 20fed ganrif.
Platiau tectonig (wynegau wedi'u cadw)

Tectoneg platiau neu symudiadau'r platiau yw'r theori ddaearegol sy'n esbonio symudiadau mawr o fewn cramen y Ddaear.

Mae plât tectonig yn ddarn o lithosffer y Ddaear. Mae arwynebedd y Ddaear wedi'i gwneud o saith plât tectonig sylweddol a nifer mwy o rai llai. Mae'r platiau hyn yn nofio fel rhafftiau ar wely o fater toddedig, ond oherwydd bod cerrynt darfudol yn y mater toddedig neu magma, mae'r platiau yn symud. Mae'r astudiaeth o blatiau tectonig yn golygu'r astudiaeth o'r platiau hyn a'r tirffurfiau sy'n ffurfio o'r herwydd.

Mae'r platiau tua 30 km (24 milltir) o drwch o dan y cyfandiroedd ond yn llai trwchus, tua 8 km (6 milltir) o dan y cefnforoedd. Mae’r platiau yn eistedd uwchben yr asthenosffer, sy’n gallu llifo fel plastig, er ei fod yn solid. Mae hyn yn galluogi’r platiau i symud.

Mae symudiadau'r platiau yn achosi daeargrynfeydd, ffrwydradau llosgfynyddoedd a ffurfiad mynyddoedd.

Mae nifer y platiau mwyaf yn amrwyio, o 7-14.

Ffin plât Tectonig[golygu]

Ffiniau Platiau Tectonig

Tirffurfiau Ymylon Platiau[golygu]

Gwelir nifer o dirffurfiau ar ymylon neu ffiniau platiau tectonig ar draws y byd. Mae'r tirffurfiau hyn yn cynnwys:-

  • Llosgfynyddoedd
  • Ynysoedd Folcanig neu arc o ynysoedd
  • Ffosydd Dyfnion
  • Mynyddoedd Plŷg

Hefyd gwelir daeargrynfeydd sy'n cael eu hachosi gan ffrithiant symudiad y plat.

Mathau o ffin[golygu]

Mynydd St. Helens gyda cholofn o ager yn codi ohono (1982)

Gan fod platiau tectonig yn symyd yn raddol mewn cyfeiriadau gwahanol ar draws y byd, mae'r newidiad sy'n digwydd ar ffin y plat yn amrywio o le i le.

Ymyl Cydgyfeiriol[golygu]

Dwy blat sy'n gwrthdaro â'i gilydd yw ymyl cydgyfeiriol.

Golwg o'r Himalayas

Plat cyfandirol yn gwrthdaro â phlat cefnforol
Mae plat cyfandirol yn ysgafnach na'r plat morol ac felly mae'n medru arnofio ar ben y plat cefnforol sy'n drymach a dwysach. Gorfodir hwn i suddo i'r fantell. Wrth suddo mae'n twymo ac yn toddi. Mae hyn yn rhyddhau nwyon a cherrig tawdd sy'n symud yn ôl i'r wyneb trwy wendidau yn y gramen. Os yw'n llwyddo i gyrraedd y wyneb mae'n creu llosgfynyddoedd. Mae symudiadau y platiau yn araf iawn gan fod ffrithiant aruthrol yn atal y symud. Ar ôl amser mae yna ormodedd o wasgedd ac mae'r platiau yn symud gall y symud sydyn yma yn greu daergryn.

Dau blat cyfandirol yn gwrthdaro
Gan mai dau blat ysgafn yw'r rhai cyfandirol nid oes un yn suddo o dan y llall. Yn ogystal mae'r gwasgedd yn plygu'r creigiau ac yn creu mynyddoedd enfawr. Dyma sut ffurfiodd mynyddoedd yr Himalaya a'r Alpau yn Ewrop. Gelwir y broses o greu mynyddoedd yn orogenesis.

Dau blat cefnforol yn gwrthdaro
Os mae dau blat cefnforol yn gwrthdaro fe fydd yr un dwysach yn suddo, twymo, toddi ac yn codi fel magama (fel Cyfandirol a Morol). Y tro yma yn lle creu llosgfynydd ar y tir mae yna arch o ynysoedd yn ffurfio sy'n gyfochrog i'r ffin rhwng y platiau. Esiampl o ynys folcanig o fewn arc o ynysoedd yw YnysMontserrat yn y Caribi.

Ymyl Dargyfeiriol[golygu]

Dyffryn Hollt

Neu ymyl Adeuladol
Dwy blat sy'n symyd oddi wrth ei gilydd sy'n creu ymyl adeiladol.

Ar ymylon dargyfeiriol mae'r platiau yn gwahanu oddi wrth ei gilydd ac mae tir newydd yn ymddangos rhyngddynt. Gelwir yr ymylon o'r math yn ymylon adeiladol. Mae hyn yn dechrau wrth i blat cyfandirol gael ei dorri gan y magma oddi dano sy'n codi i'r wyneb gan lif darfudol y magma. Bydd hyn yn arwain at ffurfiant dyffryn hollt lle mae blociau sydd rhwng y ffawtiau yn suddo. Wrth suddo, ymhen amser fe fydd y môr yn boddi'r dyffryn hollt. Mae hyn yn digwydd ar hyn o bryd yn Nwyrain Affrica.

Ymylon Cadwrol[golygu]

Pan mae platiau yn llithro heibio ei gilydd, nid oes tir newydd yn cael ei greu na'i ddinistrio. Mae llawer o ffrithiant ar y ffin rhwng y platiau sy'n atal symudiad y platiau nes i'r gwasgedd gynyddu yn ddigonol i greu daergryn. Mae'r dirgryniadau a gwnaed gan y platiau yn effeithio yr ardal o chwmpas yr 'epicenter'.Gall fynd am filtiroedd a filltiroedd.

Map o Pangaea

Damcaniaeth Platiau Tectonig[golygu]

Yn 1912 dechreuodd Alfred Wegener ei ddamcaniaeth o Ddrifft Cyfandirol. Ei syniad oedd mai ond un cyfandir mawr oedd y byd ar un adeg sydd erbyn hyn wedi rhannu i fynu i gyfandiroedd llai sydd yn arnofio oddi wrth ei gilydd ac weithiau yn taro yn erbyn ei gilydd ar wyneb y Ddaear.

Pam oedd Wegener yn credu hyn?[golygu]

  • Sylweddolodd bod daeareg tebyg gan gyfandiroedd oedd yn bell iawn oddi wrth ei gilydd.
  • Gwelodd ffosiliau tebyg ar gyfandiroedd gwahanol.
  • Ambell i gyfandir megis Affrica a De America yn edrych fel pebai yn ffitio i'w gilydd.

Beth oedd Wegener yn methu ei egluro yw pam oedd y cyfandiroedd yn symud ac oherwydd hyn ni wnaed unrhyw sylw o'i ddamcaniaeth nes y 60'au wrth i fwy o wybodaeth ddod i law.

Gweler hefyd[golygu]

Globe stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.