Falster

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Falster

Un o ynysoedd Denmarc yn y Môr Baltig yw Falster. Mae ganddi arwynebedd o 514 km² a phoblogaeth o 43,537, gyda 40% o'r rhain yn y dref fwyaf, Nykøbing Falster.

Mae culfor Guldborgsund yn ei gwahanu oddi wrth ynys Lolland. Cysylltir hi a Lolland gan ddwy bont a thwnel, ac ag ynys Sjælland gan ddwy bont. Ar Falster y mae pwynt mwyaf deheuol Denmarc, a phwynt mwyaf deheuol Llychlyn, Gedser Odde.