Pont Øresund

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pont Øresund

Pont sy'n croesi rhan o gulfor Øresund rhwng Denmarc a Sweden yw Pont Øresund (Daneg:Øresundsbroen, Swedeg: Öresundsbron; enw cyfansawdd Øresundsbron).

Ffurfia'r bont ran o'r cysylltiad rhwng Copenhagen a Malmö a rhan o'r briffordd Ewropeaidd E20. Mae'r rhan hwyaf o'r bont yn 490 metr o hyd, a'r uchaf o'i thyrrau yn 204 metr. Agorwyd hi yn swyddogol ar 1 Gorffennaf 2000. Nid yw'r bont yn croesi'r Øresund i gyd; ar yr ochr Ddanaidd mae twnel 4 km o hyd.

Y bont o Malmö