Als
Oddi ar Wicipedia
- Am y capel yn Llanelli, gweler Capel Als.
Un o ynysoedd Denmarc yn y Môr Baltig yw Als (Almaeneg: Alsen). Mae ganddi arwynebedd o 321 km² a phoblogaeth o tua 60,000.
Mae culfor Als Sund yn ei gwahanu oddi wrth orynys Jylland. Cysylltir hi a Jylland gan ddwy bont. Y dref fwyaf ar yr ynys yw Sønderborg, sy'n rhannol ar Als ac yn rhannol ar Jylland.