Schwyz
Oddi ar Wicipedia
Un o gantonau'r Swistir yw Schwyz (SZ). Saif yng nghanolbarth y Swistir. Roedd Schwyz yn un o'r tri canton gwreiddiol, gydag Uri ac Unterwald, a arwyddodd y cytundeb ffederal a sefydlodd y Conffederasiwn Swisaidd yn 1291. Gan mai Schwyz oedd y pwysicaf o'r tri canton yma, daeth ei enw i olygu'r wlad hefyd (Schweiz yn Almaeneg).
Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 140,965. Almaeneg yw prif iaith y canton.