John Penry

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd John Penry (1559 - 29 Mai 1593) yn ferthyr Protestannaidd o Langamarch, Brycheiniog (Powys).

Roedd ei gartref yng Nghefn-brith, Powys. Cafodd ei addysg yn Peterhouse, Caergrawnt, lle y daeth dan ddylanwad Piwritaniaeth.

Roedd yn feirniadol iawn o'r eglwys oherwydd ei diffyg gofal bugeiliol. Ysgrifennodd nifer o lyfrau yn Saesneg yn beirniadu'r Eglwys yng Nghymru ac yn gofyn am fwy o bregethu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bu yn cynnal gwasg argraffu yn Lloegr am gyfnod, gwasg a argraffodd nifer o bamffledi yn beirniadu'r esgobion. Fe'i camgyhuddwyd o fod yn awdur y Marprelate Tracts ac o fod yn anheyrngar i frenin Lloegr. Cafodd ei grogi ar lan Afon Tafwys, 29 Mai 1593.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • The Æquity of an Humble Supplication (1587)
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.