Blaenau Gwent

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am yr etholaeth Westminster, gweler Blaenau Gwent (etholaeth seneddol)
Bwrdeistref Sirol
Blaenau Gwent
Blaenau Gwent
County Borough
Blaenau Gwent UK location map.svg
Daearyddiaeth
Arwynebedd
- Cyfan
- % Dŵr
Lle 22
109 km²
? %
Pencadlys gweinyddiaeth Glyn Ebwy
ISO 3166-2 GB-BGW
Côd ONS 00PL
Demograffiaeth
Poblogaeth:
- Cyfan (blwyddyn treth 2007)
- Dwysedd
 
Lle 20
69,200
Lle 4
635 / km²
Ethnigrwydd 99.1% Gwyn.
Cymraeg
- Unrhyw sgiliau
Lle 21 allan o 22.
13.3%
Gwleidyddiaeth
Arfbais Cyngor Bwrdeistref Siriol Blaenau Gwent
Cyngor Blaenau Gwent
http://www.blaenau-gwent.gov.uk/
Rheolaeth Does dim rheolaeth gyffredinol, ond clymblaid annibynnol
Aelod Seneddol

Nick Smith, Llafur Cymru

Logo y Cyngor

Mae Blaenau Gwent yn fwrdeistref sirol yn rhanbarth Gwent, de-ddwyrain Cymru. Mae'n ffinio ag ardaloedd awdurdod unedol o Dorfaen a Sir Fynwy i'r dwyrain, Caerffili i'r gorllewin, a Phowys i'r gogledd. Abertyleri, Brynmawr, Glyn Ebwy, a Thredegar yw'r prif drefi.

Llywodraeth[golygu]

Sefydlwyd y fwrdeistref ym 1974 fel dosbarth llywodraeth leol o Went. Cyfunwyd hen ddosbarthau trefol Sir Fynwy, gan gynnwys Abertyleri, Glyn Ebwy, Nantyglo, y Blaenau a Thredegar, yn ogystal â Brynmawr a phlwyf Llanelli yn Sir Frycheiniog.

Ailansoddiwyd ym 1996 fel bwrdeistref sirol, gan eithrio Llanelli a aiff yn lle i Sir Fynwy. Rheolir yr ardal gan Gyngor Bwrdeistref Siriol Blaenau Gwent bellach.


Hanes[golygu]

Mae pobl wedi byw yn yr ardal hon ers dros 4,000 o flynyddoedd. Dyma ble roedd pobl Geltaidd o'r enw'r Silwriaid yn byw. I'r Cymry, yr enw ar yr ardal hon rhwng Afon Sirhywi ac Afon Gwy oedd Gwent. Roedd pobl Gwent yn siarad tafodiaith Gymraeg o'r enw 'Gwenhwyseg' am amser hir iawn. Ym 1542, daeth enw newydd i'r ardal - Sir Fynwy. Yna, daeth y Chwyldro Diwydiannol a daeth newid. Agorodd gwaith haearn yn Sirhywi ym 1779 ac wedyn mewn llefydd fel Glyn Ebwy, Tredegar, a Nantyglo. Daeth llawer o bobl newydd i'r ardal i weithio ac roedd llawer iawn yn Gymry Cymraeg. Wedyn, daeth y gwaith glo ac wedyn y gwaith dur. Roedd llawer iawn o bobl yn dod i'r ardal ac roedd iaith y Cymoedd yn newid yn araf o Gymraeg i Saesneg. Ym 1801, roedd 45,000 o bobl yn byw yn yr hen Sir Fynwy ac erbyn 1901, roedd 450,000 o bobl yn yr ardal ac roedd y rhan fwyaf yn siarad Saesneg. Ym 1991, dim ond 2.2% o'r bobl oedd yn gallu siarad Cymraeg, ond erbyn 2001, roedd 9.5% yn siarad Cymraeg ac mae nifer y bobl ifanc sy'n siarad yr iaith yn codi bob blwyddyn, gan fod ysgol gynradd Gymraeg newydd yno o'r enw Ysgol Gynradd Bro Helyg a leolir yn y Blaenau (Ysgol Gymraeg Brynmawr] cyn hynny); Ysgol Gymraeg Bro Helyg.[1]

Cymunedau[golygu]

Gwybodaeth arall[golygu]

Mae gan Blaenau Gwent y lefel uchaf o dlodi plant difrifol yng Nghymru, fel y datgelir gan ddata ystadegol yn ôl adroddiad gan Achub y Plant.

Yn ôl y Cyfrifiad 2011, mae 5,284 o breswylwyr y sir (neu 7.8%) yn gallu siarad Cymraeg, mewn cymhariaeth â 6,417 o siaradwyr (neu 9.5%) yn 2001.[2]

Gefeilldref[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. [Cylchgrawn Acen Mewn Print, tud. 14, rhifyn Eisteddfod 2010]
  2. Siaradwyr Cymraeg fesul awdurdod lleol a grwpiau oedran ehangach, Cyfrifiad 2001 a 2011


Siroedd a Dinasoedd Cymru Map Cymru 1996 heb enwau.svg

Siroedd, Bwrdreistrefi Sirol a Dinasoedd presennol
Abertawe | Blaenau Gwent | Bro Morgannwg | Caerdydd | Caerffili | Casnewydd | Castell-nedd Port Talbot | Ceredigion | Conwy | Gwynedd | Merthyr Tudful | Pen-y-bont ar Ogwr | Powys | Rhondda Cynon Taf | Sir Benfro | Sir Ddinbych | Sir Fynwy | Sir y Fflint | Sir Gaerfyrddin | Torfaen | Wrecsam | Ynys Môn
Siroedd gweinyddol 1974-1996
Clwyd | De Morgannwg | Dyfed | Gorllewin Morgannwg | Gwent | Gwynedd | Morgannwg Ganol | Powys
Siroedd gweinyddol cyn ad-drefnu 1974
Sir Aberteifi | Sir Benfro | Sir Drefaldwyn | Sir Ddinbych | Sir Fynwy | Sir Faesyfed | Sir Feirionnydd | Sir Fôn | Sir Forgannwg | Sir Frycheiniog | Sir y Fflint | Sir Gaerfyrddin | Sir Gaernarfon