Gwernyfed

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cymuned ym Mhowys yw Gwernyfed. Saif ar lan ddeheuol Afon Gwy, gyferbyn a'r Clas ar Wy, ac yn ymestyn i gyfeiriad Talgarth.

Yn dilyn concwest Teyrnas Brycheiniog gan y Normaniaid, daeth yr ardal o fewn is-arglwyddiaeth Y Clas ar Wy, yn gorwedd rhwng Y Gelli a Thalgarth. Rhoddwyd y daliad i Peter Gunter gan Bernard de Neufmarché.

Saif pentrefi Aberllynfi (Three Cocks yn Saesneg) a Felindre o fewn y gymuned. Mae plasdy Hen Wernyfed yn dyddio o'r 15fed ganrif ond wedi ei ail-adeiladu yn y cyfnod Jacobeaidd; mae'n awr yn westy. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 995.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Gwernyfed (pob oed) (1,049)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Gwernyfed) (104)
  
10.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Gwernyfed) (513)
  
48.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Gwernyfed) (131)
  
31.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Cysylltiad allanol[golygu]