Afon Tefeidiad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Tefeidiad ger Llwydlo

Afon sy'n tarddu ym Mhowys ac yn llifo i Loegr yw Afon Tefeidiad, weithiau Afon Tefaidd (Saesneg: River Teme).

Ceir tarddle'r afon ar lethrau gorllewinol Bryn Coch, i'r de o'r Drenewydd. Llifa tua'r de ac yna tua'r dwyrain, heibio Felindre a Bugeildy, cyn troi tua'r de eto a ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr am rai milltiroedd. Wedi llifo heibio Cnwclas mae'n cyrraedd Tref-y-clawdd yna'n llifo tua'r dwyrain eto i mewn i Loegr i gyrraedd Leintwardine a Llwydlo. Mae'n ymuno ag Afon Hafren ger Whittington, i'r de o ddinas Caerwrangon.

CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Salop arms.png Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill