Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfesurynnau: 52°01′N 3°05′W / 52.01°N 3.09°W / 52.01; -3.09
Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin)
(y Mynydd Du)
Llyn y Fan Fawr, yng nghesail Fan Brycheiniog ar y Mynydd Du.
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Llyn y Fan Fawr, yng nghesail Fan Brycheiniog ar y Mynydd Du.
Uchder (m) 703
Uchder (tr) 2306
Amlygrwydd (m) 874
Lleoliad rhwng Llanymddyfri a Threfynwy
Map topograffig Landranger 161;
Explorer 13N
Cyfesurynnau OS SO255350
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall
Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin) is located in Cymru
Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin) (Cymru)
Am y Mynydd Du yn Sir Fynwy, gweler Mynydd Du (Mynwy).

Cadwyn o fynyddoedd yn Sir Gaerfyrddin yw'r Mynydd Du, sy'n gorwedd ym mhen gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Fan Brycheiniog (802 m) yw copa uchaf y Mynydd Du. Yr unig ffordd fawr i groesi'r ardal yw'r A4069, rhwng Brynaman a Llangadog; cyfeiriad grid SO255350. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 549metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Ymestyn y gadwyn o gyffiniau Rhydaman yn y de-orllewin hyd Pontsenni yn y gogledd-ddwyrain. Mynyddoedd Hen Dywodfaen Coch a chalchfaen ydynt yn bennaf. Mae'r Mynydd Du yn rhan o barc daearegol newydd Fforest Fawr.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 703 metr (2306 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Copaon cyfagos[golygu]

Fan Hir
Picws Du

Llên gwerin[golygu]

Mae'r Mynydd Du a'r cylch yn ardal gyfoethog ei chwedlau gwerin. Yr enwocaf yw honno am Arglwyddes Llyn y Fan Fach. Yma hefyd y lleolir chwedl Llyn Llech Owain a chwedl Ogof Craig y Ddinas. Ar odre gogleddol y Mynydd Du ceir pentref Myddfai, cartref Meddygon Myddfai yn yr Oesoedd Canol.

Darllen pellach[golygu]

  • Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gâr (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1955; ail arg. 1970)
  • Gomer Morgan Roberts, Chwedlau Dau Fynydd (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1948)

Gweler hefyd[golygu]

Dolennau allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]