Afon Senni

Oddi ar Wicipedia
Afon Senni
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9455°N 3.5723°W Edit this on Wikidata
Map
Tarddle Afon Senni

Afon ym Mhowys sy'n llifo i mewn i Afon Wysg yw Afon Senni. Mae'n tua 7 milltir (11 km) o hyd.

Ceir tarddle'r afon ym Mlaen Senni ar ucheldiroedd y Fforest Fawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, heb fod ymhell o Fan Nedd, Fan Gyhirych a Fan Fraith, i'r de o Heol Senni ac i'r dwyrain o'r briffordd A4067. Mae'n llifo tua'r gogledd trwy Heol Senni a Defynnog, lle mae Nant Treweryn yn ymuno â hi, cyn ymuno ag Afon Wysg ym Mhontsenni.

Dynodwyd yr afon fel Ardal Gadwraeth Arbennig.