Afon Llwyd
Oddi ar Wicipedia
Afon yn ne-ddwyrain Cymru, yn llifo i mewn i Afon Wysg yw Afon Llwyd.
Ceir tarddle'r afon ar y llethrau i'r gogledd o bentref Blaenafon. Mae'n llifo tua'r de heibio Cwmafon ac Abersychan, yna'n troi i'r de-ddwyrain trwy dref Pont-y-pŵl, yna heibio Cwmbrân, Croesyceiliog, Llantarnam a Ponthir, cyn cyrraedd Afon Wysg ger Caerllion.