Y Beddau
Cyfesurynnau: 51°33′22″N 3°21′28″W / 51.5560°N 3.3577°W
| Y Beddau | |
| Saesneg: Beddau | |
Sgwâr y Beddau |
|
|
|
|
| Prif ardal | Rhondda Cynon Taf |
|---|---|
| Sir seremonïol | Morgannwg Ganol |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | PONTYPRIDD |
| Rhanbarth cod post | CF38 |
| Cod deialu | 01443 |
| Yr Heddlu | De Cymru |
| Tân | De Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Pontypridd |
| Cynulliad Cymru | Pontypridd |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Rhondda Cynon Taf | |
Pentref mawr[1] ydy Y Beddau. Mae'n gorwedd 1.5 milltir tu allan i Lantrisant, tua pedwar milltir i’r de-orllewin o Bontypridd a saith milltir i'r gogledd-orllewin o Gaerdydd, ar y briffordd A473.
Cynnwys |
Addysg [golygu]
Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau ydy’r ysgol gynradd Gymraeg. Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn a Ysgol Gynradd Llwycrwn ydy’r ysgolion cyfrwng Saesneg y pentref. Mae’r ddau ohonynt yn porthi i mewn i’r Ysgol Gyfun y pentref, Ysgol Gyfun Bryn Celynnog.
Chwaraeon [golygu]
Mae’r Beddau yn nodedig am ei thalent rygbi'r undeb, yn cynnwys Neil Jenkins, Michael Owen a Gethin Jenkins a fynychai Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn y pentref. Mae gan y pentref dîm rygbi lleol, Beddau RFC, yn ogystal â thîm pêl-droed, Cwm Welfare AFC.
Cludiant [golygu]
Mae’r pentref yn cael ei wasanaethu gan wasanaethau bws i Lantrisant, Caerdydd a Phontypridd. Bodolai gorsaf, Gorsaf Rheilffyrdd Arhosfan Y Beddau ar y Gyffordd Rheilffordd Llantristant a Dyffryn Taf, tan 1964 i'r de o'r pentref. Ymestynodd cilffordd rheilffordd breifat o'r gangen Treferig y Cyffordd Rheilffordd Llantrisant a Dyffryn Taf i gweithfeydd glo i'r pentref yn bodoli ers amser. Cilffyrdd helaeth a thraffig rheilffyrdd a wasanaethir Glofa Cwm a gwaith golosg tan 1984 pan cafodd y llinell i Pontyclun ei chau. Mae ymdrechion yn cael eu gwneud i ailagor y llinell hon i draffig teithwyr.
Trigolion o Nodwedd [golygu]
- Cafodd yr actor Adrian Lewis Morgan, sy’n fwyaf adnabyddus am ei rôl o Dr. Jimmi Clay yn y opera sebon y BBC, Doctors, ei eni yn y pentref.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Davies (2008), page 507.
Dolenni allanol [golygu]
- www.geograph.co.uk : lluniau o'r Beddau a'r ardal gyfagos (Saesneg)
- Llwybr Treftadaeth: Y Beddau (Saesneg)