Afon Cynon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Cynon o Bont Abercynon.

Afon yn ne Cymru sy'n llifo i mewn i Afon Taf yw Afon Cynon. Mae'n ffurfio Cwm Cynon.

Mae'n tarddu fel nifer o nentydd ar lechweddau Bannau Brycheiniog uwchben pentref Penderyn. Wedi iddynt ymuno a'i gilydd i ffurfio Afon Cynon, mae'n llifo tua'r de trwy Hirwaun, yna'n troi tua'r de-ddwyrain trwy Benywaun, Aberdar, Abercwmboi, Aberpennar a Phenrhiw-ceibr, cyn ymuno ag Afon Taf gerllaw Abercynon.