Guto Nyth Brân

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun Guto Nyth Brân yn Aberpennar

Rhedwr cyflym iawn o'r Rhondda oedd Guto Nyth Brân (1700 - 1737). Griffith Morgan oedd ei enw swyddogol er mai fel Guto y câi ei adnabod. Fe'i ganed yn Llwyncelyn yn y Rhondda - sy'n rhan o dref Y Porth erbyn hyn - ond symudodd y teulu i fferm o'r enw Nyth Brân gerllaw, sy'n esbonio'i enw.

Mae nifer o straeon i'w cael am Guto. Dywedir y gallai, pan oedd yn fachgen ifanc, redeg i fwrw golwg ar holl braidd y fferm a rhedeg yn ôl i'r tŷ cyn i'r tegell ferwi ar y tân. Curodd sawl rhedwr o fri mewn rasys yn y de, gan ennill arian da mewn gwobrau, a dywedir iddo rasio yn erbyn ceffyl ac ennill.

Ei ras enwocaf oedd yr un olaf iddo'i rhedeg, sef ras o 12 milltir rhwng Casnewydd a Bedwas, yn erbyn Sais o'r enw Prince. Bu bron iddo â cholli'r ras, ond ef fu'n fuddugol yn y diwedd. Ar ddiwedd y ras, dywedir i'w gariad, Siân, ei guro mor galed ar ei gefn yn ei chyffro nes i'r ergyd ei ladd.

Claddwyd Guto yn Llanwynno. Trefnir Ras Flynyddol Nos Galan yn Aberpennar er cof amdano.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.