Doctor Who
| Doctor Who | |
|---|---|
| Genre | Drama / Ffuglen wyddonol |
| Crëwyd gan | Sydney Newman C. E. Webber Donald Wilson |
| Serennu | (presennol) Matt Smith |
| Cyfansoddwr y thema | Ron Grainer |
| Thema'r dechrau | Cerddoriaeth thema Doctor Who |
| Cyfansoddwr/wyr | Murray Gold |
| Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig |
| Iaith/ieithoedd | Saesneg |
| Nifer cyfresi | 31 |
| Nifer penodau | 769 (hyd 26 Mehefin 2010) |
| Cynhyrchiad | |
| Amser rhedeg | 25 mun. (1963–1984, 1986–1989) 45 mun. (1985, 2005–presennol) |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | BBC One |
| Darllediad gwreiddiol | Cyfres glasurol: 23 Tachwedd 1963 – 6 Rhagfyr 1989 Ffilm deledu: 12 Mai 1996 Cyfres presennol: 26 Mawrth 2005 – presennol |
| Cysylltiadau allanol | |
| Gwefan swyddogol | |
| Proffil IMDb | |
Rhaglen deledu ffuglen wyddonol ydy Doctor Who ("Doctor Pwy") a gynhyrchir gan y BBC yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn ymwneud ag anturiaeth dyn arallfydol sy'n galw ei hun yn "the doctor" (y meddyg). Mae'r cymeriad estron hwn yn teithio o gwmpas y gofod mewn llong gofod o siap bwth ffôn heddlu'r 1960au, o’r enw'r Tardis.
Rhestrwyd y rhaglen yn y "Guinness World Records" fel y rhaglen ffug wyddonol sydd wedi bod ar y teledu am yr amser hiraf, a hynny drwy'r byd.
Cynnwys |
Y gyfres wreiddiol (1963-1989, 1996) [golygu]
Rhedodd y gyfres wreiddiol o 23 Tachwedd 1963 - 6 Rhagfyr 1989. Chwaraewyd y prif gymeriad ('y Doctor') gan wyth actor gwahanol:
- 1963-1966: William Hartnell
- 1966-1969: Patrick Troughton
- 1970-1974: Jon Pertwee
- 1974-1981: Tom Baker
- 1982-1984: Peter Davison
- 1984-1986: Colin Baker
- 1987-1989: Sylvester McCoy
- 1996 (ffilm deledu): Paul McGann
Y gyfres newydd (ers 2005) [golygu]
Cafodd y gyfres hon ei lansio yn 2005 yn bennaf drwy ymdrechion yr awdur teledu Russell T. Davies. Ffilmiwyd y Doctor Who newydd gan BBC Cymru, yn bennaf yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, a'i cynhyrchu yn Upper Boat Studios, Glan-bad. Yn y tymor cyntaf chwaraewyd rhan y Doctor gan Christopher Eccleston.
Y Prif gymeriadau yn y tymor newydd ers 2005 [golygu]
- Yr unfed ar ddeg Doctor - Matt Smith (2010-)
- Amy Pond - Karen Gillan (2010-)
- Rory Williams - Arthur Darvill (2010-)
- River Song - Alex Kingston (2008-)
- Y degfed Doctor - David Tennant (2005-2010)
- Donna Noble - Catherine Tate (2006, 2008-2010)
- Wilfred Mott - Bernard Cribbins (2007-2010)
- Martha Jones - Freema Agyeman (2007-2010)
- Y nawfed Doctor - Christopher Eccleston (2005)
- Rose Tyler - Billie Piper (2005-2010)
- Mickey Smith - Noel Clarke (2005-2010)
- Jackie Tyler - Camille Coduri (2005-2010)
Nofelau [golygu]
Mae nifer o gyfresi o nofelau wedi cael eu rhyddhau yn seiliedig ar y gyfres:
- Nofelau Target - nofelau yn seiliedig ar anutriaethau o'r gyfres wreiddiol.
- Nofelau New Adventures Virgin - straeon newydd yn parhau hanes y Seithfed Doctor wedi diwedd y gyfres wreiddiol.
- Nofelau Missing Adventures Virgin - straeon newydd ar gyfer y chwech Doctor cyntaf.
- Nofelau Eighth Doctor Adventures y BBC - straeon newydd yn parhau hanes yr wythfed Doctor ar ol y Ffilm Deledu.
- Nofelau Past Doctor Adventures y BBC - straeon newydd ar gyfer y seithfed Doctor cyntaf.
- Nofelau New Series Adventures y BBC - straeon newydd ar gyfer y nawfed Doctor (yn 2005) a'r degfed Doctor (o 2006 ymlaen) fel a welir yn y gyfres newydd.
Gweler hefyd [golygu]
Cysylltiad allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol