Matt Smith
| Matt Smith | |
|---|---|
![]() |
|
| Ganwyd | Hydref 28, 1982 Northampton, Swydd Northampton |
| Enwau eraill | Matthew Robert Smith |
| Yn enwog am | Doctor Who |
| Galwedigaeth | Actor |
Actor llwyfan a theledu Seisnig yw Matthew Robert "Matt" Smith (ganwyd 28 Hydref 1982). Ar ôl cyfnod fel pêl-droediwr ifanc, daeth Smith yn actor wedi iddo ddioddef o anaf i'w gefn. Daeth ei berfformiad cyntaf yn y ddrama Murder in the Cathedral fel rhan o'r Theatr Ieuenctid Cenedlaethol. Daeth yn actor proffesiynol yn 2003, gan serennu ochr yn ochr â Christian Slater yn Fresh Kills a Swimming With Sharks. Ei rôl deledu amlycaf cyntaf oedd fel Jim Taylor yn addasiad y BBC o The Ruby in the Smoke a The Shadow in the North gan Phillip Pullman yn 2003. Cafodd ei rôl deledu flaenllaw cyntaf yn 2007 pan chwaraeodd ran Danny yng nghyfres y BBC Party Animals. Yn fwy diweddar, mae Smith wedi cael ei ddewis fel yr unfed actor ar ddeg i chwarae rhan y Doctor yn y gyfres deledu Brydeinig, Doctor Who.
Ffilmiau[golygu]
- Falling (2005)
- In Bruges (2008)
Teledu[golygu]
- The Ruby in the Smoke (2006)
- The Secret Diary of a Call Girl (2007)
- Moses Jones (2009)
- Christopher and his Kind (2010)
- Doctor Who (2010)
