Christopher Eccleston
Oddi ar Wicipedia
| Christopher Eccleston | |
|---|---|
| Ganwyd | 16 Chwefror, 1964 Salford, Manceinion Fwyaf, |
| Yn enwog am | Shallow Grave, Elizabeth, 28 Days Later |
| Galwedigaeth | Actor |
Actor ffilm, teledu a llwyfan Seisnig ydy Christopher Eccleston (ynganer /ˈɛkəlstən/; ganed 16 Chwefror 1964). Mae ei ffilmiau'n cynnwys Shallow Grave, Elizabeth, 28 Days Later, Gone in 60 Seconds a G.I. Joe: The Rise of Cobra. Yn 2005 dechreuodd actio cymeriad y Doctor yn y gyfres deledu Doctor Who.