Matt Lucas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Matt Lucas yng Ngŵyl V 2007

Mae Matthew Richard Lucas (ganed 5 Mawrth 1974) yn ddigrifwr ac yn actor Seisnig. Efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei waith cydnabyddedig gyda David Walliams yn y rhaglen sgets deledu Little Britain a'i gyfres o gyfweliadau sbŵf Rock Profile, yn ogystal â'i bortread swreal o'r babi 'George Dawes', a gadwai'r sgôr ar raglen gomedi Reeves a Mortimer Shooting Stars.

Ym mis Mai 2007, rhoddwyd Lucas ar safle rhif 8 ar restr o'r cant o bobl hoyw a lesbiaid mwyaf dylanwadol yng ngwledydd Prydain gan y papurau newydd The Independent a The Daily Mail. Roedd y rhestr yn cynnwys pobl LHDT o feysydd megis adloniant, busnes, gwleidyddiaeth a gwyddoniaeth.

Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.