Alun Lewis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Bardd Eingl-Gymreig Alun Lewis

Bardd Eingl-Gymreig o Aberdar oedd Alun Lewis (1 Gorffennaf, 1915 - 5 Mawrth, 1944). Roedd yn frodor o Gwmaman ger Aberdâr. Yn ôl rhai, dyma fardd gorau'r Ail Ryfel Byd.

Bywgraffiad[golygu]

Ymunodd â'r fyddin yn 1940 er ei fod yn heddychwr. Priododd Gwenno Ellis, athrawes, yn 1941.

Athro oedd ei dad, Thomas John Lewis, a daeth yntau'n athro yn Ysgol Lewis i Fechgyn, Pengam am ychydig. Ond i lawr yn y lofa y gweithiai ei dri brawd.

Ac yntau'n ddim ond 28 mlwydd oed, fe'i lladdwyd gan ei ddrull ei hun ger Arakan yn Byrma ar 5 Mawrth 1944 a chafodd ei gladdu ym mynwent rhyfel Taukyan.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • The Last Inspection (storiau) (1944)
  • Raider's Dawn and other poems (1944)
  • Ha! Ha! Among the Trumpets (1945)
  • In the Green Tree (llythyrau) (1948)

Cyfeiriadau[golygu]

Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.